|
|
Myfyrwyr PresennolMyfyrwyr Newydd
Newydd i’r ardal? Gallwch ddysgu popeth am yr hyn sydd gan Wrecsam, Gogledd Cymru a Gogledd Orllewin Lloegr i’w gynnig yma. Dysgwch fwy am y profiad o fod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Glyndŵr a’r cymorth y mae’r Ysgol Astudiaethau Israddedig yn ei gynnig yma. Beth am ein dilyn ar Facebook neu Twitter i sgwrsio gyda myfyrwr newydd arall a chael yr holl newyddion diweddaraf o Brifysgol Glyndŵr.
Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2012Yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol (AMC) yw eich cyfle chi i gael lleisio eich barn am eich profiad o astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr. Yn agored i bob myfyriwr israddedig blwyddyn olaf, mae’n holi am bob agwedd ar fywyd prifysgol, o addysgu ac asesu i weithgareddau a chefnogaeth. Mae cwblhau’r arolwg yn golygu y bydd eich llais yn cael ei glywed a’ch atborth yn cael ei weithredu arno. Yn seiliedig ar atebion i arolwg y llynedd, mae’r brifysgol wedi gwneud llawer o welliannau allweddol i gyfleusterau, cynrychiolaeth myfyrwyr a’r modd yr ydym yn cyfathrebu gyda’n myfyrwyr. Dros yr wythnosau nesaf, bydd cyfres o bosteri, pyst blogiau a gweithgareddau eraill yn amlygu’r cynnydd yr ydym wedi ei wneud ers yr AMC diwethaf, a’r camau yr ydym yn eu cymryd i wneud hyd yn oed mwy o welliannau. Y neges syml yw ‘fe ofynnoch chi, fe wnaethom ni’, ac rydym eisiau dal ati i blesio’n myfyrwyr yn seiliedig ar yr hyn maen nhw’n ei ddweud wrthym. Trwy gwblhau’r arolwg byddwch yn helpu’r brifysgol i barhau i dyfu a darparu’r profiad myfyriwr gorau posibl. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth ac i gwblhau Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2012. Arolwg Myfyrwyr GlyndŵrTra bod yr Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol yn agored i fyfyrwyr blwyddyn olaf yn unig, hoffem glywed gan fyfyrwyr mewn cyfnodau eraill o’u profiad prifysgol hefyd. Dyna yw rôl Arolwg Myfyrwyr Glyndŵr. Mae’r arolwg dienw yn agored i bob myfyriwr israddedig NAD ydynt yn eu blwyddyn olaf ac yn seiliedig ar eich rhaglen radd a’ch amser gyda ni hyd yn hyn. Bydd y canlyniadau yn rhoi mwy o fewnwelediad nag erioed o’r blaen i ni i’r hyn y mae ein myfyrwyr yn ei feddwl o Brifysgol Glyndŵr go iawn, a syniadau yngylch sut y gallwn fynd o nerth i nerth. Cliciwch yma i gymryd rhan a lleisio eich barn. Myfyrwyr Presennol
|
|