|
|
Llyfrgell ac astudio
Mae Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr yn cynnig ystod eang o adnoddau gwybodaeth i gefnogi eich astudiaethau, a hynny mewn amgylchedd dysgu hyblyg a chyfforddus. Mae gennym fwy na 120,000 o lyfrau, DVDs ac adnoddau dysgu eraill yn ein Llyfrgell, sydd yng Nghanolfan Edward Llwyd ar gampws Plas Coch yn Wrecsam. Ar ben hynny, rydym hefyd yn cynnig mynediad i’r holl staff a myfyrwyr i adnoddau ar-lein electronig, megis tua 1000 o destunau electronig a thestun llawn mwy na 6000 o gyfnodolion electronig. Y ffordd orau o ddechrau arni yw chwilio drwy ein catalog yn http://library.glyndwr.ac.uk ac yno hefyd gallwch chwilio am lyfrau yn Llyfrgell Prifysgol Bangor. Os ydych yn aelod o staff neu fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor, mae eich cerdyn llyfrgell yn rhoi’r hawl i chi fenthyg o Lyfrgell Prifysgol Glyndŵr. Ein horiau agor yn ystod y semester yw: Dydd Llun 8.45 am – 10pm Gall yr oriau agor amrywio yn ystod gwyliau’r Brifysgol adeg y Nadolig, y Pasg ac yn ystod yr Haf, cadwch lygad allan am yr hysbysiadau a chyhoeddiadau. Mae Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr yn rhan o gynllun Mynediad SCONUL http://access.sconul.ac.uk/ felly gallwch fenthyca o’n Llyfrgell os ydych yn aelod o staff o brifysgol arall, neu’n fyfyriwr ôl-raddedig neu israddedig rhan amser/dysgu o bell/ ar leoliad o brifysgol arall yn y Deyrnas Unedig. Rhowch wybod i ni os hoffech ymuno â'r llyfrgell drwy anfon e-bost at enquirydesk@glyndwr.ac.uk Os ydych yn aelod o Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyhoeddus Wrecsam neu Ganolfan Adnoddau Dysgu Iâl, mae gennych hawl i fenthyg llyfrau o Lyfrgell Prifysgol Glyndŵr o ddangos eich cerdyn llyfrgell cartref yn unol â chynllun Porth i Lyfrgelloedd yn Wrecsam (GaLW). Os hoffech gael y newyddion diweddaraf am Lyfrgell Prifysgol Glyndŵr, yna ewch i weld ein blog CysylltuYmholiadau Cyffredinol: enquirydesk@glyndwr.ac.uk neu 01978 293237 Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr, Pwynt Postio 22L, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam LL11 2AW Adnewyddu: renewals@glyndwr.ac.uk neu 01978 293237 (peiriant ateb 24 awr) (gadewch eich enw, a rhif cod bar llyfrgell yr eitem sydd i’w hadnewyddu) Y Llyfrgell Hybu Iechyd Mae’r Llyfrgell Hybu Iechyd yn rhan o Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae wedi’i lleoli yn Llyfrgell Prifysgol Glyndŵr yn Wrecsam. Mae’r Llyfrgell Hybu Iechyd yn cynnig ystod eang o wybodaeth a chyngor ar amryw o bynciau gan gynnwys: Alcohol a Chyffuriau Mae'r wybodaeth ar gael trwy amrywiaeth o fformatau cynhwysfawr, gan gynnwys DVDs a phecynnau dysgu i’w benthyca yn ogystal ag ystod eang o daflenni hybu iechyd sy’n rhad ac am ddim. Mae catalog o'r holl DVDs a phecynnau dysgu, sy’n rhoi arweiniad ynghylch pwy y maent wedi eu hanelu atynt a’r cod catalog, ar gael yn http://ww2.newi.ac.uk/health_promotion_library/index.asp Mae modd i chi hefyd fenthyca llyfrau hybu iechyd o Lyfrgell Prifysgol Glyndŵr, a gallwch chwilio amdanynt yn http://library.glyndwr.ac.uk/ Mae’r Llyfrgell Hybu Iechyd ar agor o 8:45 y bore tan 5 yr hwyr o ddydd Llun i ddydd Iau. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch ag: Eilian Jones, Swyddog Adnoddau Hybu Iechyd ar 01978 293265 neu jonesge@glyndwr.ac.uk |
|