Sut i wneud cais am lety
Gyda system cais am lety ar-lein newydd Prifysgol Glyndŵr, mae gwneud cais am lety yn hawdd a chyflym. Defnyddiwch y system ar-lein pan fyddwch wedi penderfynu pa lety yr hoffech fyw ynddo.
|
|
Sut i wneud cais am letyGyda system cais am lety ar-lein newydd Prifysgol Glyndŵr, mae gwneud cais am lety yn hawdd a chyflym. Defnyddiwch y system ar-lein pan fyddwch wedi penderfynu pa lety yr hoffech fyw ynddo. Dylech ddarllen y telerau a’r amodau hyn er mwyn deall y Polisi Dyrannu y mae’r tîm Llety yn ei ddilyn wrth neilltuo llety i fyfyrwyr. Mae’r ddogfen hon hefyd yn manylu’r Drefn Neilltuo ac yn dangos, gam wrth gam, y broses y mae’r tîm llety yn mynd trwyddi wrth neilltuo llety i fyfyrwyr. Y mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth sy’n benodol berthnasol i fyfyrwyr rhyngwladol. Polisi neilltuo – amcanion y polisiYn anffodus, gan bod ein hystafelloedd mor boblogaidd, nid oes lle i bawb sy’n gwneud cais. Gan hynny rydym yn dilyn system sy’n rhoi ein hystafelloedd i’r rheiny sydd eu hangen fwyaf. Mae hyn yn golygu y rhoddir blaenoriaeth i fyfyrwyr sydd:
Gall myfyrwyr sy’n dychwelyd wneud cais am lety prifysgol mewn unrhyw ystafelloedd dros ben a allai fod ar gael. Myfyrwyr sy’n rhieni, cyplau, teuluoeddYn anffodus, nid yw ein neuaddau preswyl yn cynnig unrhyw lety sy’n addas ar gyfer teuluoedd, cyplau neu fyfyrwyr sy’n rhieni. Mae’n bosibl y gallai’r tîm llety helpu i ddod o hyd i lety lleol amgen. Myfyrwyr Erasmus a myfywyr semesterRydym yn neilltuo canran fechan o’n hystafelloedd i fyfyrwyr Erasmus a myfyrwyr sydd angen lle am un semester yn unig. Rydym yn rhoi blaenoriaeth i’r myfyrwyr hynny sy’n byw bellaf i ffwrdd o Wrecsam. Anabledd a gofynion arbennigByddwn yn cynnig eich dewis cyntaf o lety mewn neuadd i chi os:
Byddwn hefyd yn sicrhau lle i chi mewn neuadd trwy gydol eich astudiaethau, er ei bod yn bosibl y bydd angen gweld tystysgrif feddygol arnom. Pe bai’n well gennych gael llety yn y sector preifat, mae’n bosibl y gallwn gael gwybodaeth am landlordiaid addas. Ceir mwy o wybodaeth am hyn gan y Gwasanaethau Myfyrwyr hefyd. Rhestr arosOs na chynigir y llety y gwnaethoch gais amdano i chi, fe’ch ychwanegir at ein rhestr aros yn awtomatig. Y Drefn NeilltuoRydym yn sylweddoli fod y Drefn Neilltuo yn gallu ymddangos yn hir a chymhleth, felly dyma gynnwys canllaw byr i’r broses o wneud cais am lety isod. Chwefror / Mawrth / Ebrill / Mai
Mehefin / Gorffennaf
Awst
Medi
|
|