Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Pentre’r Myfyrwyr

Student village

Mae Pentre’r Myfyrwyr, ein neuaddau preswyl ar Gampws Plas Coch, yn gyfuniad perffaith o ansawdd a fforddiadwyedd sy’n golygu mai dyma ein llety mwyaf poblogaidd. Mae’r nodweddion hyn, ar y cyd â’i leoliad, gyferbyn â Chanolfan Edward Llwyd (sy’n cynnwys ein llyfrgell, adrannau TG a Gwasanaethau Myfyrwyr), yn ei wneud yn llety delfrydol ar gyfer israddedigion yn eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol.

Gwybodaeth Gyffredinol

  • Mae Pentre’r Myfyrwyr yn cynnwys 208 ystafell sengl, wedi eu rhannu yn 7 bloc
  • Yn y 7 bloc yma, ceir ystafelloedd mewn fflatiau o 5/6 gyda chyfleusterau cegon a bwyta ar y cyd
  • Mae gan bob ystafell ystafell ymolchi en-suite gan gynnwys sinc, drych, cawod a thoiled
  • Mae mannau cysylltu rhyngrwyd gwifrog ar gael ym mhob ystafell wely
  • Mae yna 8 ystafell wedi’u haddasu ar gyfer myfyrwyr llai abl a 2 ystafell ar gyfer gofalwyr yn ôl y galw
  • Wedi’i lleoli yn ganolog ym Mhentre’r Myfyrwyr, mae’r swyddfa gwasanaethau llety. Mae aelod o’r tîm llety wedi’i leoli yma ac yn gallu rhoi gwybodaeth i chi a’ch helpu gydag unrhyw broblemau
  • Mae’r blociau i gyd wedi’u diogelu gan gamera teledu cylch-cyfyng a staff diogelwch 24-awr
  • Mae yna gyfleusterau golchi dillad sy’n derbyn darnau arian gyferbyn â’r swyddfa Gwasanaethau Llety
  • Mae yna ffonau talu yma a thraw ym Mhentre’r Myfyrwyr ac ar Gampws Plas Coch
  • Mae yna lefydd parcio ar gael ar gael ar y campws

Lleoliad

Mae Pentre’r Myfyrwyr yn ddim ond:

  • 2 funud i ffwrdd ar droed o Barc Manwerthu Plas Coch sy’n cynnwys archfarchnad, Sainsburys, a siopau eraill fel Boots a Currys/PC World
  • 10 munud i ffwrdd ar droed o Orsaf Drenau Ganolog Wrecsam
  • 15 munud i ffwrdd ar droed o Orsaf Fysiau Wrecsam
  • 15 munud i ffwrdd ar droed o Ganol Tref Wrecsam

Argaeledd

Mae Pentre’r Myfyrwyr ar gael i:

  • Israddedigion newydd o’r DU/UE (blwyddyn gyntaf yn y brifysgol)
  • Israddedigion newydd Rhyngwladol (blwyddyn gyntaf yn y brifysgol)
  • Myfyrwyr cyn-sesiynol
  • Myfyrwyr Ysgol Haf
Ein cymorth i fyfyrwyr