Gerddi Fictoria
Wedi eu lleoli yng nghanol Wrecsam, mae Gerddi Fictoria yn cynnwys 5 tŷ rhes tri-llawr, newydd eu datblygu, yn yr arddull Fictorianaidd. Yn ddim ond ychydig funudau i ffwrdd ar droed o ganol y dref a’r orsaf reilffordd, mae Tai 1 i 5 Gerddi Fictoria yn cynnwys lleoliad hamddenol i drigolion fyw ac astudio.
Mae gan y pump tŷ gynllun gwahanol, â phob un yn cynnwys pump neu chwech ystafell wely helaeth ynghyd â cheginau modern gyda lle ar gyfer coginio, bwyta a chymdeithasu. Mae’r cyfleusterau eraill o fewn pob tŷ yn cynnwys:-
- Ystafelloedd sengl en suite.
- Ystafelloedd o safon uchel gydag ystafell ymolchi ‘Siôn a Siân’ ar y cyd
- Ystafelloedd sengl safonol gyda mynediad i’r prif ystafell ymolchi
- Ystafelloedd dwbwl gyda chyfleusterau ystafell ymolchi ar y cyd
- Gall y trigolion i gyd wneud defnydd o’r ceginau/ystafelloedd byw/bwyta
- Mae yna le i wi-fi ym mhob ystafell
- Mae yna un lle parcio ar gyfer pob tŷ
- Lle delfrydol i astudio draw o’r neuaddau myfyrwyr israddedig
- Canol tref Wrecsam o fewn 5 munud i ffwrdd ar droed
- Gorsaf Ganolog Wrecsam hefyd yn ddim ond 5 munud i ffwrdd ar droed
- Fel arfer, cynigir ystafelloedd yng Ngerddi Fictoria ar gytundeb 37 wythnos, fodd bynnag, bydd cyfnodau o osod hirach yn cael eu hystyried ar gais.
