Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Neuaddau Preswyl Prifysgol Glyndŵr

Mae Prifysgol Glyndŵr yn berchen ar nifer o lefydd a ddefnyddir fel lletyau ar gyfer myfyrwyr blwyddyn gyntaf llawn amser.

Bwriad y wybodaeth ganlynol am bob neuadd yw rhoi disgrifiad cryno yn unig o neuaddau preswyl Prifysgol Glyndŵr sydd ar gael ar gyfer sesiynau academaidd 2010 – 2011.

  • Bras amcanion yw’r pellteroedd ac amseroedd i gyd 
  • Mae pob llety yn hunanarlwyol 
  • Gofynnir i’r myfyrwyr preswyl ddarparu eu llestri / offer coginio a’u dillad gwely (e.e. cynfasau, cwilt a chobenyddion) personol eu hunain 
  • Mae nwy / trydan a gwasanaethau eraill yn gynwysedig 
  • Fel arfer, cynigir cytundebau llety ar y telerau canlynol :- 
    • Semestr cyntaf – 20 Medi 2010 hyd at 9 Ionawr 2011
    • Ail semestr – 10 Ionawr 2011 hyd at 5 Mehefin 2011
    • 37 wythnos arferol o 20 Medi 2010 hyd at 5 Mehefin 2011 
    • 40 wythnos arferol o 20 Medi 2010 hyd at 26 Mehefin 2011
    • 46 wythnos arferol o 6 Medi 2010 hyd at 26 Mehefin 2011
  • Bydd angen i fyfyrwyr sydd eisiau aros am wythnosau ychwanegol tu hwnt i gyfnod y cytundeb arferol wneud cais ar wahân. Ceir gwybodaeth am hyn yn eich telerau ac amodau. 
  • Noder y bydd angen i fyfyrwyr drefnu eu hyswiriant eu hunain ar gyfer eu heiddo personol.

Pe hoffech ddod i gael golwg ar y lletyau, rydym yma ar gyfer y dyddiau agored i gyd, gweler y dyddiadau yma.

Ac eithrio’r dyddiadau hyn, cysylltwch â ni yn uniongyrchol a byddwn yn fwy na bodlon i’ch dangos chi o gwmpas. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch unrhyw wybodaeth am y neuaddau preswyl, cysylltwch â ni yn accommodation@glyndwr.ac.uk

Ein cymorth i fyfyrwyr