|
|
Llety sector preifatI fyfyrwyr nad ydynt yn dymuno byw mewn llety sy’n eiddo i’r brifysgol, mae yna ystod eang o lety preifat ar gael yn Wrecsam. Wrth edrych ar lety preifat mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn cytuno i fyw mewn eiddo sydd yn saff, yn ddiogel ac wedi’i redeg yn dda. Er mwyn helpu myfyrwyr i wneud hyn, mae gan dîm llety Prifysgol Glyndŵr gofrestr ar-lein o’r enw Pad Myfyrwyr ble gallwch chwilio am lefydd addas i’w rhentu yn ac o amgylch ardal Wrecsam. Er mwyn gwella’r gwasanaeth i fyfyrwyr, dim ond landlordiaid sydd wedi eu hachredu gyda thystysgrif Cynllun Achredu Landlordiaid Cymru fydd wedi’u rhestru trwy Pad Myfyrwyr. Cefnogir y cynllun ALC yma gan bob cyngor yng Nghymru gan hyrwyddo landlordiaid ac asiantiaid proffesiynol sy’n rhentu llety o ansawdd da tra’n deall gofynion myfyrwyr a’u hoblygiadau eu hunain fel landlordiaid. I chwilio am lety sector preifat yn Wrecsam, cliciwch yma. Mae’r tîm llety bob amser ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr sy’n penderfynu byw mewn llety preifat, ond pan fo myfyrwyr yn rhentu llety, dylid cofio fod y cytundeb tenantiaeth rhwng y myfyriwr a’r landlord. Gan hynny, dylai myfyrwyr geisio datrys unrhyw broblemau yn uniongyrchol gyda’u landlord neu gyda’r cyngor. |
|