Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Diogelwch

Mae diogelwch ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, a dyma’r rhifau i’w cysylltu:-

Swyddfa Diogelwch - 01978-293222

Ffôn Symudol Diogelwch 1 (Campws Plas Coch) – 07764 687910

Ffôn Symudol Diogelwch 2 (Campws Plas Coch – 07764 687909

Mae Prifysgol Glyndŵr yn cymryd iechyd a diogelwch ei myfyrwyr o ddifri, ac ar ddechrau pob tymor cynhelir sesiwn sefydlu iechyd a diogelwch ar gyfer y preswylwyr i gyd. 

Gofynnir yn benodol i’r preswylwyr fod yn ymwybodol o a chydsynio gyda’r rheolau canlynol er mwyn sicrhau eu diogelwch eu hunain a diogelwch pobl eraill.

DRYSAU TÂN
MAE’N RHAID CADW DRYSAU TÂN AR GAU BOB AMSER AC NI DDYLID EU DAL AR AGOR MEWN UNRHYW FFORDD.

DIFFODDWYR TÂN
PEIDIWCH AG YMYRRYD YN FWRIADOL GYDA DIFFODDWYR TÂN AC EITHRIO MEWN ARGYFWNG.

SYSTEM LARWM TÂN
MAE’N DROSEDD YMYRRYD Â’R SYSTEM LARWM TÂN. PEIDIWCH AG YMYRRYD Â SYNWYRYDDION TÂN, SYNWYRYDDION MWG NA GWYDRAU TORRI TÂN.   

DIOGELWCH CYFFREDINOL
PEIDIWCH Â GADAEL POPTAI HEB EU GORUCHWYLIO TRA’N COGINIO.
NI CHANIATEIR YSMYGU YN UNRHYW UN O’R NEUADDAU PRESWYL.
NI CHANIATEIR CANHWYLLAU YN UNRHYW UN O’R NEUADDAU PRESWYL.

Ein cymorth i fyfyrwyr