Cyfleusterau ar y campws
Cyfleusterau Golchi Dillad
Mae’r cyfleusterau wedi eu lleoli gyferbyn â’r swyddfa gwasanaethau llety ym Mhentre’r Myfyrwyr.
Parcio
Cofiwch arddangos eich trwydded parcio ar ddangosfwrdd eich car bob amser a pharcio bob amser mewn man parcio penodol.
Prydau Bwyd
Mae lletyau Prifysgol Glyndŵr yn cynnig cyfleusterau hunanarlwyol, ond gellir prynu prydau bwyd yn unrhyw un o’r mannau arlwyo sydd ar gael ar y campws.
Blychau Post
Mae yna flwch post ar gyfer post allanol wedi ei leoli ym mhrif dderbynfa’r brifysgol, ac un arall wrth ymyl y swyddfa ddiogelwch.
Archfarchnadoedd
Mae Sainsbury's ac Aldi wedi eu lleoli gyferbyn â Phentre’r Myfyrwyr.
Banciau/Peiriannau Codi Arian
Ceir cangen o bob un o brif fanciau’r DU yng nghanol tref Wrecsam. Mae yna hefyd beiriannau codi arian tu allan i’r brif fynedfa i archfarchnad Sainsbury's.
Fferyllfa
Mae yna fferyllfa yn Boots ym mharc manwerthu Plas Coch gyferbyn â Phentre’r Myfyrwyr.
Bar Urdd y Myfyrwyr
Mae’r bar ar gampws Wrecsam. Mae bwyd a diod ar gael yno am brisiau rhesymol, ynghyd â nosweithiau disco, karaoke a ‘digwyddiadau’ rheolaidd.
Neuadd William Aston
Neuadd theatr gydag 800+ o seddi ble mae amrywiaeth o ddigrifwyr, corau a bandiau yn perfformio.
