|
|
Llety ym Mhrifysgol Glyndŵr
Ym Mhrifysgol Glyndŵr rydym yn gosod y safon ar gyfer llety fforddiadwy o ansawdd uchel. Os oes angen llety arnoch tra’n astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr, byddwn yn falch o drafod eich dewisiadau gyda chi. Mae ein tîm llety ymroddedig yn sylweddoli fod adeilad yn fwy na dim ond adeilad; mae’n gartref i chi yn ystod eich amser ym Mhrifysgol Glyndŵr, felly byddwn yn eich helpu i ddod o hyd i’r dewis iawn ar eich cyfer chi. Mae Prifysgol Glyndŵr yn berchen ar ystod eang o letyau i ddewis o’u plith:
Mae’r brifysgol hefyd yn prydlesu ystafelloedd yn Neuadd Snowdon gan yr Opal Property Group ac ym Mhentre Wrecsam, a reolir gan Wrecsam Village Ltd. Gan ddefnyddio’r dolenni uchod, gallwch weld tudalennau proffil a lluniau o bob un o letyau Prifysgol Glyndŵr. Gwybodaeth ddefnyddiol
NB Bydd angen i fyfyrwyr sydd eisiau aros am wythnosau ychwanegol tu hwnt i gyfnod y cytundeb sefydlog wneud cais ar wahân. Ceir gwybodaeth am hyn yn eich telerau ac amodau. Os ydych yn dymuno byw mewn llety ar rent preifat, rydym wedi gosod meincnod ar gyfer hyn hefyd. Ers 2011, dim ond landlordiaid wedi’u hachredu gan Achredu Landlordiaid Cymru a restrir ar ein cofrestr llety ar y we, sef porth ar-lein o’r enw Pad Myfyrwyr, ble gallwch chwilio am letyau i’w rhentu yn ac o amgylch Wrecsam. Mae pob cyngor yng Nghymru yn cefnogi’r cynllun ALC, sy’n hyrwyddo landlordiaid ac asiantiaid proffesiynol sy’n rhentu llety o ansawdd uchel wedi’i redeg yn dda. Am fwy o wybodaeth, ewch i’r dudalen Llety Sector Priefat. Crynodeb
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu pe hoffech weld llety prifysgol cyn gwneud eich dewis ar eich ffurflen gais, cysylltwch â’r tîm llety i wneud apwyntiad. Ffoniwch 01978 293344 neu ebostiwch llety@glyndwr.ac.uk. Gallwch hefyd fynychu un o’n dyddiau agored, ble bydd rhywun o’r tîm llety ar gael i gynnig cyngor ac arweiniad. Os ydych eisoes wedi penderfynu ar lety ym Mhrifysgol Glyndŵr ac angen gwneud cais am lety, neu eisiau gwybod mwy am y broses neilltuo, ewch i’r dudalen sut i wneud cais am lety ble gallwch wneud cais am le trwy ddefnyddio ein system geisiadau ar-lein newydd. |
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||