Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Iechyd

Iechyd

Mae gan Brifysgol Glyndŵr nyrs ar y campws yn ystod y tymor sy'n darparu gwasanaeth cyfrinachol ar gyfer triniaeth frys a chyngor ynghylch materion iechyd. Mae gennym hefyd ddwy feddygfa deuluol ar y safle, gyda meddgon gwrywaidd a benywaidd sy’n darparu gwasanaeth cyfrinachol. Gall myfyrwyr gofrestru gyda’r naill neu’r llall o’r meddygfeydd hyn neu gydag un o’r amrywiaeth o feddgyfeydd eraill yn Wrecsam.  

Mae’r nyrsys yn rhedeg digwyddiadau hybu iechyd trwy gydol y flwyddyn, gan ddechrau gyda ffair y glas. Mae’r digwyddiad yma yn anelu i roi digon o gyngor am fyw’n iach, yn enwedig ar gyfer y myfyrwyr hynny sy’n byw oddi cartref am y tro cyntaf. Y mae hefyd yn darparu cysylltiadau â grwpiau cefnogi iechyd eraill.

Anogir myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr i gyd i gofrestru gyda meddyg lleol (os nad ydynt eisoes yn byw’n lleol), a gallant wneud hyn wrth gofrestru/sefydlu.

Oherwydd y prinder cenedlaethol o ddeintyddion, cynghorir myfyrwyr i gael archwiliad gyda’u deintydd adref cyn iddynt ddod i Brifysgol Glyndŵr ac i gadw eu deintydd eu hunain trwy gydol eu hamser yma. Fodd bynnag, mae yna wasanaethau deintyddol brys ar gael yn Wrecsam pe bai angen. 

Am fwy o wybodaeth about wasanaethau iechyd, cysylltwch â’r Ddesg Gwybdoaeth Myfyrwyr yn y lle cyntaf:

Ein cymorth i fyfyrwyr