|
|
Gofal plant
Rhedir gwasanaethau gofal plant gan Active Childcare Ltd, cwmni arobryn gydag enw da eang am ddarparu plant a phobl ifanc gyda safonau eithriadol o uchel o ofal ac addysg mewn amgylchedd hamddenol a hapus, tra’n darparu rhieni gyda thawelwch meddwl llwyr. Meithrinfa Ddydd Little Scholars Mae Meithrinfa Ddydd Little Scholars wedi’i lleoli ar gampws Plas Coch, ac yn darparu gofal dydd llawn i blant, staff a myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr yn ogystal â’r cyhoedd yn gyffredinol. Mae addysg blynyddoedd cynnar a gofal o ansawdd uchel ar gael i blant o 3 mis i 5 mlwydd oed. Clybiau Gwyliau Active Mae Clwb Gwyliau Little Scholars yn darparu gofal yn ystod y gwyliau i blant hyd at 8 oed. Mae hyn ar gael yn ystod y gwyliau haf i gyd ac eithrio’r wythnos rhwng y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd a Gwyliau Banc. Mae Active 8-2-14 yn glwb gwyliau arbennig ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 8 ac 14 oed. Mae hwn ar agor yn ystod gwyliau Pasg a Haf yr ysgol. Cysylltwch ag Active Childcare am fwy o wybodaeth: Meithrinfa Little Scholars Rhif ffôn: 01978 262551 Active Childcare Ltd Rhif ffôn: 01978 661189 |
|