|
|
Yn ymroddedig i gefnogi gadawyr gofal
Mae Prifysgol Glyndŵr yn falch o fod wedi cyflawni Marc Safon Ymddiriedolaeth Frank Buttle yn 2007 am ei hymroddiad i helpu pobl ifanc mewn ac sy’n gadael gofal yn eu hymdrechion academaidd ac ymlaen i lwyddiant. Nid yn unig y mae mynd i brifysgol yn datblygu doniau academaidd, ond fe ddylai hefyd olygu astudio pwnc yr ydych yn ei fwynhau tra’n cyfarfod pobl newydd a chael hwyl. Felly, os ydych yn meddwl y gallai prifysgol fod yn addas i chi, buasem wrth ein boddau yn clywed gennych chi. I ble’r ydych yn mynd o’r fan hyn?Yn ogystal â darparu canolfan galw heibio yn Urdd y Myfyrwyr, mae gwasanaethau myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr wedi eu lleoli yng Nghanolfan Edward Llwyd ynghyd â’r llyfrgell, cyfleusterau TG, siop lyfrau a chaffi Chapters. Gall yr adran gwasanaethau myfyrwyr gynnig cyngor ac arweiniad ynghylch llwybrau i brifysgol, cyllidau, astudiaeth a chefnogaeth bersonol yn ystod a thu hwnt i’ch cwrs astudio. Rydym yn cynnig cyfleoedd trwy gydol y flwyddyn i fynychu dyddiau agored, sy’n ffordd fuddiol iawn o gyfarfod staff ac ymgyfarwyddo â’r amgylchedd yn ogystal â dysgu am y cyrsiau sydd ar gynnig trwy fynychu gweithdai a darlithoedd. Gyda phwy ydych yn siarad?Beryl Dixon yw uwch Swyddog Cyngor ac Arweiniad Lles Prifysgol Glyndŵr. Mae hi wedi ei lleoli yn y Gwasanaeth Cyngor ac Arweiniad Lles yn Urdd y Myfyrwyr a gall eich cynghori chi mewn nifer o feysydd megis ffioedd, cyllido, bwrsarïau, ysgoloriaethau, budd-daliadau, newidiadau cwrs a llety. Mae eich pecyn cefnogaeth a lwfans ariannol yn dibynnu ar eich amgylchiadau, a dylai eich Cynghorydd Personol o fewn eich awdurdod lleol allu dweud wrthych beth yw’r rhain. Dylai manylion eich bwriad o fynd i brifysgol a beth mae hyn yn ei gynnwys ffurfio rhan o gynllun eich llwybr, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn trafod hyn mewn cyfarfodydd cynnydd. Bydd angen rhannu’r wybodaeth yma gyda Beryl petaech yn dymuno gwneud cais am unrhyw gymorth ariannol gan Brifysgol Glyndŵr. Fel gadawr/wraig gofal dynodedig, byddwch yn awtomatig yn gymwys am lety ar y campws, petaech yn dymuno ei gael, trwy gydol y flwyddyn a thrwy gydol eich cwrs. Am fwy o wybodaeth am unrhyw beth yr ydych wedi ei ddarllen yma, mae croeso i chi gysylltu â Beryl ar 01978 2933547 neu ebostip b.dixon@glyndwr.ac.uk |
|