Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cynghori

Cynghori

Pam fod yna gynghori ym Mhrifysgol Glyndŵr?

Gall bywyd ym Mhrifysgol Glyndŵr fod yn gyffrous a llawn gobaith, gallai fod yna amseroedd anodd, ac fe allai materion ddod i’r fei pan fydd angen cefnogaeth cynghorydd arnoch. Fe allai fod yna adegau pan hoffech gael cefnogaeth rhywun arall i siarad â nhw.  

Beth yw cynghori?

Mae cynghori yn cynnig cyfle i feddwl a siarad am broblemau sy’n eich poeni ac yn effeithio ar eich bywyd. Cynigir hyn trwy siarad gyda chynghorydd hyfforddedig..

Sut fydd hyn o gymorth?

Bydd llawer o brofiadau mewn bywyd yn cael effaith ar ein hemosiynau a’n gallu i ymdopi. Gall cynghorydd eich cefnogi trwy eich galluogi i siarad am eich bywyd a dod i ddeall eich profiadau eich hun. Gall cynghori eich galluogi i gael gafael ar rwydweithiau cefnogaeth ac asiantaethau cymorth eraill. Gellir cael gafael ar ddefnyddiau a llenyddiaeth hunangymorth hefyd os oes angen.  

A yw hyn i mi?

Mae llawer o bobl yn poeni nad yw eu problemau yn ddigon pwysig i weld cynghorydd amdanynt. Weithiau mae ar bobl angen lle i drafod pethau a cheisio dod o hyd i ffyrdd o’u rheoli. Os oes unrhyw beth yn eich poeni neu’n peri trallod i chi, yna mae’n bwysig. 

Mae cynghori yn gyfrinachol

Mae pob cysylltiad gyda’r Gwasanaeth Cynghori yn gyfrinachol i’r gwasanaeth. Mae apwyntiadau yn cael eu gwneud yn gyfrinachol.

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori am fwy o wybodaeth:

Rhif ffôn: 01978 293266
Ebost: counselling@glyndwr.ac.uk 

Ein cymorth i fyfyrwyr