Mae gan Brifysgol Glyndŵr gyfleusterau cyfrifiadurol rhagorol wedi’u lleoli yn agos at ble mae eu hangen o fewn eich pwnc neu yn y llyfrgell a’r mannau mynediad agored. Mae buddsoddiad diweddar wedi ehangu ein mynediad Diwifr WiFi trwy’r campws cyfan.
Mae gan ein cyfrifiaduron i gyd fynediad rhyngrwyd llawn. Byddwn yn eich darparu gydag ystod eang o gyfleusterau TG eraill megis eich cyfrif ebost eich hun, storfa ffeiliau, rhaglenni safonol ac arbenigol a chyfleusterau argraffu.
Mae gennym 13 o ystafelloedd cyfrifiadurol trwy’r Brifysgol. Mae’r rhan fwyaf o’r rhain ar gyfer defnydd mynediad agored cyffredinol, er bod yna hefyd nifer o labordai TG arbenigol ar gyfer meysydd arbennig fel Cyfrifiadura, Peirianneg, a Chelf a Dylunio.
Mae Prifysgol Glyndŵr yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i’r eithaf. Mae gennym fewnrwyd myfyrwyr gynhwysfawr yn cynnwys ystod o gyngor ac arweiniad. Mae llawer o nodiadau darlithoedd a chynnwys rhaglen ein rhaglenni ar gael ar-lein trwy ein Hamgylchedd Rhith-ddysgu. Mae llawer o ddefnyddiau astudio megis cronfeydd data ar-lein, e-gyfnodolion a gwybodaeth catalog llyfrgell ar gael ar-lein oddi ar gyfrifiaduron y campws. Gellir cael gafael arnynt adref hefyd pe bai’n well gennych astudio yno.
Mae Gwasanaethau TG yn darparu cymorth a chyngor hwylus ac effeithiol ar bob agwedd o gyfrifiadura gan gynnwys caledwedd, meddalwedd a mynediad a defnydd o rwydweithiau. Gallwch hefyd roi gwybod am unrhyw ddiffygion gydag offer cyfrifiadurol cysylltiedig â rhwydwaith Prifysgol Glyndŵr. Y Ddesg Gymorth TG yn adeilad y llyfrgell (Canolfan Edward Llwyd) yw’r man cyntaf i alw am bob ymholiad TG.
Am fwy o wybodaeth am gyfleusterau a chefnogaeth TG, cysylltwch â’r Ddesg Gymorth TG ar 01978 293241 yn y lle cyntaf.