|
|
Chwaraeon Myfyrwyr - Undeb Athletau ym Mhrifysgol
Mae’r Undeb Athletau (UA) ym Mhrifysgol Glyndŵr yn gyfle i chi ymuno â chlwb chwaraeon, gwneud ffrindiau a chymryd rhan mewn chwaraeon ar unrhyw lefel, o ddechreuwyr i’r goreuon. Mae’n werth ymaelodi â’r Undeb Athletau gan fod mwynhad a chymdeithasu bron mor bwysig â llwyddiant wrth chwarae. Mae croeso i bawb o blith y myfyrwyr fod yn aelodau o’r UA ac mae yna lu o bethau i’w gwneud… dyna chi’r nosweithiau gwisg ffansi elusennol, tlws pêl-droed dan do Cynghrair y Cenhedloedd a chinio gwobrau’r haf. Os oes yn well gennych gefnogi na chwarae, galwch heibio un o’r caeau chwarae ar brynhawniau Mercher i gefnogi eich hoff dîm, ond peidiwch â cholli allan ar y dathliadau ar ôl y gêm! Mae cymryd rhan mewn chwaraeon, ac yn fwy penodol bod yn aelod o dîm neu glwb, yn un o’r ffyrdd gorau o wneud y mwyaf o’ch amser yn y brifysgol. Ar wahân i gadw’n iach a heini, rydym yn sicrhau y byddwch yn gwneud rhai o’ch ffrindiau gorau trwy’r Undeb Athletau. Mae aelodaeth o’r Undeb Athletau yn costio £45 (bydd gofyn i chi brynu cit chwarae eich tîm am gost ychwanegol o £45.) |
|