Archebiadau
Os ydych yn chwilio am leoliad ar gyfer eich ffair grefftau, digwyddiad chwaraeon neu ddim ond eisiau cymryd rhan mewn chwaraeon gyda’ch ffrindiau, cysylltwch â Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr ac fe geisiwn fodloni eich cais.
Unigol
Er mwyn archebu cyfleuster ar gyfer sesiwn unigol, cysylltwch â ni ar 01978 293275, neu trwy ebostio sportsbookings@glyndwr.ac.uk neu galwch heibio’r dderbynfa yn ein canolfan chwaraeon yn Wrecsam. Yr unig beth sydd arnom ei angen yw enw a rhif ffôn cyswllt. Dim ond ar gyfer archeb saith-diwrnod o flaen llaw y mae’r opsiwn yma ar gael.
Archebu Bloc
Gallwch naill ai wneud cytundeb chwe-mis neu ddeuddeg-mis gyda ni er mwyn llogi cyfleuster. Mae archebu bloc yn sicrhau fod gan eich tîm le bob amser ar gyfer y cyfnod hwnnw. Rhowch gymaint o wybodaeth ag y gallwch ar gyfer eich archeb. Ar yr adeg yma byddwn yn rhoi archeb DROS DRO i chi, a fydd yn cael ei gadarnhau unwaith y byddwn wedi anfon ffurflen gais llogi atoch, a chithau wedi ei dychwelyd at Chwaraeon Prifysgol Glyndŵrand a chytundeb wedi ei roi.
Archebu Digwyddiadau o Bwys
Yma yn Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr mae gennym ystod eang o arbenigedd mewn trefnu digwyddiadau. Yn y gorffennol rydym wedi cynnal digwyddiadau megis Pencampwriaethau Badminton Cenedlaethol Cymru, Hoci Ewropeaidd a thwrnameintiau Cleddyfa Feteran y Gymanwlad. Ar wahân i chwaraeon, rydym wedi cynnal Antiques Roadshow y BBC, ffeiriau gyrfaoedd, a’r BBC Wales Roadshow. Byddwn bob amser yn trefnu cyfarfod un-i-un gyda chwsmeriaid er mwyn sicrhau y gellir bodloni eich gofynion.
Beth sydd angen ei wybod arnom?
Beth yw eich digwyddiad? Pa ddyddiadau yr hoffech eu llogi? Ar gyfer pa adegau y bydd angen y cyfleusterau arnoch? Sut fath o offer sydd arnoch ei angen gennym? Sut fath o offer y byddwch yn dod gyda chi?
Cyfleusterau
Mae gan y neuadd yr arwynebedd llawr mwyaf yn ardal Wrecsam, felly mae yno le i dipyn go lew o fasnachwyr neu stondinau. Gallwch ddefnyddio’r stiwdio ddawns fel ardal VIP neu rywle y gall y stondinwyr fynd i gael toriad. Mae gennym hefyd fynediad i ddarlithfeydd a neuaddau preswyl (y tu allan i’r tymor yn bennaf).
Sut i Archebu
Gallwch naill ai ein ffonio ni ar 01978 293275 neu ebostio sportsbookings@glyndwr.ac.uk i holi am ddyddiadau sydd ar gael. Fel arall, lawlwythwch ffurflen gais llogi a’i hanfon atom. Unwaith y bydd wedi cyrraedd ar ein desg, byddwn yn dal gafael ar eich archeb dros dro am bythefnos fan bellaf. Ar ôl derbyn cadarnhad o’ch archeb ynghyd â phecyn sy’n rhoi gwybodaeth i chi a’ch defnyddwyr am y ganolfan a’i rheolau a’i rheoliadau, bydd yn rhaid i chi ddychwelyd eich cytundeb wedi’i arwyddo atom cyn i’r archeb gael ei chadarnhau.
