|
01978 293439
SID@glyndwr.ac.uk |
Chwaraeon ym Mhrifysgol GlyndŵrChwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr yw ein canolfan chwaraeon, wedi’i lleoli yng nghalon campws Plas Coch Prifysgol Glyndŵr. Y mae’n un o leoliadau chwaraeon blaenllaw Gogledd Cymru sydd wedi cynnal sawl digwyddiad chwaraeon yn ogystal â chynadleddau. Mae yna ystod eang o gyfleusterau ar gael yn y ganolfan. Mae gennym ddau gae artiffisial â llifoleuadau – cae â sylfaen dŵr o safon ryngwladol ar gyfer hoci a chae â sylfaen tywod ar gyfer pêl-droed yn bennaf – a Labordy Perfformiad Dynol. Mae ein neuadd chwaraeon 1000m.sg. yn cynnwys llawr stripiau masarnen â sbrings ac yn cynnwys stiwdio ddawns, ystafell ffitrwydd a balconi gwylwyr. Mae Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr yn rhedeg nifer o ddosbarthiadau fel ioga, cicbocsio a chamu, ac yn cefnogi gweithgareddau amrywiaeth o dimau chwaraeon fel hoci, pêl-droed a phêl-fasged. Mae’r ganolfan hefyd yn cynnig Pecynnau Byw’n Iach i fyfyrwyr sy’n dymuno gwella eu hiechyd trwy ddeiet a ffitrwydd. Mae’r ganolfan chwaraeon wedi tyfu ers i ni agor ein drysau am y tro cyntaf. Gallwn yn awr frolio sawl Swyddog Datblygu Chwaraeon yn ogystal â chysylltiadau agos gyda chlybiau cymunedol a’r tîm Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer o fewn Prifysgol Glyndŵr. Gall myfyrwyr sy’n astudio ar raglen lawn amser ar brif gampws Plas Coch wneud cais am gefnogaeth trwy ein cynllun Ysgoloriaeth a Bwrsarïau arloesol. Cysylltwch â Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr am fwy o wybodaeth: Rhif ffôn: 01978 293275 |
|