|
|
Caplaniaeth
Yn ystod eich amser fel myfyriwr/wraig neu gyflogedig ym Mhrifysgol Glyndŵr, byddwch yn dod ar draws lawer o bynciau a fydd yn gwneud i chi feddwl yn ddyfnach am bynciau mawr bywyd (e.e. Duw, natur y bydysawd, cytgord hiliol neu lysieuaeth). Mae yna gaplan ar gael i’ch helpu chi i feddwl am y pynciau hyn ac i hybu diddordeb yn gyffredinol yn ochr mwy ysbrydol bywyd. Ar ben hynny, mae yna gaplan addysg uwch (fel caplan ysbyty) ar gael pe bai angen cefnogaeth arnoch mewn unrhyw gyfnodau anodd sy’n codi i chi yn ystod eich amser ym Prifysgol Glyndŵr. Y Caplan ym Mhrifysgol Glyndŵr yw Janice Jones, sy’n gweithio’n eciwmenaidd gyda’r rheiny o enwadau Cristnogol eraill ac yn annog cymunedau crefyddol eraill a’r staff a’r myfyrwyr i gyd i archwilio ochr ysbrydol bywyd. Ar gyfer yr adegau pan fo angen penodol arnoch i weld aelod o’r un ffydd, mae yna bobl a elwir yn Gynghorwyr Ffydd yno i’ch helpu. Gall y Caplan hefyd gynnig cyngor bugeiliol a chroesawu pobol o’r un crefydd neu anffyddwyr fel ei gilydd. Nid oes rhaid trafod materion crefyddol yn benodol; mae cefnogaeth fugeiliol gan gaplan yr un mor grefyddol ag yr ydych yn dymuno iddi fod ac fe’i cynigir mewn ffordd anfeirniadol. Mae’r Gaplaniaeth yn cynnal cyfarfodydd addoli rheolaidd, a hysbysebir ar hysbysfyrddau a mewnrwyd y myfyrwyr. Cysylltwch â’r Caplan am fwy o wybodaeth: Rhif ffôn: 01978 293336 |
|