|
|
Bwyd a diod
Mae yna ystod o fannau arlwyo yn y campysau ble gall myfyrwyr fwyta, yfed, ymlacio a chymdeithasu mewn amgylchedd sydd yr un mor ffasiynol a modern ag y rhai sydd ar gael ar y stryd fawr. Mae yna hefyd nifer o beiriannau gwerthu wedi’u lleoli trwy’r campws sy’n darparu lluniaeth hwylus. Mae Campws Plas Coch yn cynnwys ffreutur Scholar’s Rest, ein prif le bwyta, sy’n cynnig popeth o frechdanau a salad i frecwast a phrydau bwyd cyflawn gyda’r nos. Darperir ar gyfer gofynion deietegol arbennig gan gynnwys prydau hal al, llysieuol a heb glwten, a chynhelir prydau â thema a barbeciws yn rheolaidd. Mae mannau arlwyo eraill yn Plas Coch yn cynnwys Bar Caffi Fellows (bar coffi fel y rhai a geir ar y stryd fawr), Bar Caffi a Siop Manwerthu Chapters (siop ‘hanfodion’), Certi Gwerthu Café Direct (cyfleuster hunanwasanaeth yn y llyfrgell), a Café Darganfod yn Adeilad Lôn Crispin ger Techniquest Glyndŵr. Hefyd ar y campws mae Bwyty 1887, lleoliad gwych ar gyfer mynd allan am bryd – mae angen archebu o flaen llaw ar gyfer y bwyty. Ar gampws Stryt y Rhaglaw, mae Caffi Inspirations yn gwasanaethu Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru. Cysylltwch â’r Ddesg Gwybodaeth Myfyrwyr yn y lle cyntaf am fwy o wybodaeth:
|
|