Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Theatr Terry Hands

Theatr Terry Hands

Agorodd Theatr Terry Hands yn 2006 yn dilyn buddsoddiad £130,000 yng nghyfleusterau Theatr a Pherfformio NEWI. Mae’r theatr yn cynnwys dwy stiwdio gyda lloriau â sbrings wedi’u cynllunio’n arbennig, a thrydedd stiwdio aml-bwrpas sy’n cynnwys yr offer cylweledol diweddaraf; “stiwdio llais” arbenigol ar gyfer ymarfer a recordio’r llais; man crefftau cynllun agored a man gwisgoedd.

Mae’r theatr wedi’i henwi ar ôl Terry Hands, Cyfarwyddwr Clwyd Theatr Cymru, sydd wedi’i lleoli 10 milltir o Wrecsam yn nhref yr Wyddgrug yn Sir Fflint. Hyfforddodd Terry yn RADA ac fe sefydlodd y Royal Shakespeare Company yn 1966. Ymunodd â Theatr Clwyd (fel y’i galwyd bryd hynny) yn 1996 fel Ymgynghorydd Artistig ac yn 1997 fe ddaeth yn Gyfarwyddwr a Phrif Weithredwr y theatr.

Ein campysau a’n cyfleusterau