|
Text begins here:
Proffilau staff a myfyrwyr
Richard Lewis
Richard Lewis yw’r Arweinydd Rhaglen ar gyfer y FdScs mewn Garddwriaeth. Wedi’i hyfforddi yng Ngholeg enwog Writtle, gyda chyfoeth o brofiad yn y diwydiant, mae gan Richard dros ugain mlynedd o brofiad o addysgu garddwriaeth ar bob lefel. Mae gwaith ymgynhgorol a darlithio yn mynd ag ef yn rheolaidd mor bell ag Uganda, ble mae Richard yn gweithio ar hyn o bryd fel rhan o gynllun DRIP, yn hyfforddi pentrefwyr mewn technegau garddwriaethol a’r defnydd cynaliadwy o ddŵr.
Yn ogystal â gweithio ym maes rheoli fferm, galwyd ar Richard i ddarparu ei arbenigedd garddwriaethol i’r llywodraeth, gan weithio ar eu gorsafoedd arbrofol garddwriaethol, Ymddiriedolaeth y Tywysog, ble bu Richard yn cyfrannu a chynghori ar brosiectau cymunedol megis cadwraeth ac adeiladaeth ar gyfer prif gynhyrchiad ffrwythau ICI. Yn Ngholeg Garddwriaeth Cymru, gwnaeth Richard greu a rhedeg yr adran anghenion arbennig yn ogystal â darlithio ar ystod eang o gyrsiau garddwriaethol y coleg. Mae’r diddordebau ymchwil yn cynnwys datblygu cynhyrchu garddwriaethol organig cynaliadwy yng ngwledydd y trydydd byd a’r berthynas rhwng yr amgylchedd a rheoli plâu ac afiechydon mewn cynhyrchu organig.
Dr David Skydmore
Astudiodd David ar gyfer ei radd gyntaf, mewn bywydeg, ym Mhrifysgol Manceinion. Yna, cwblhaodd ddoethuriaeth mewn epidemoleg a phatholeg planhigion ym Mhrifysgol Cymru cyn ymgymryd â gwaith ôl-ddoethurol mewn afiechydon cnydau garddwriaethol a choed coedwigoedd. Rhoddodd y gwaith hwn gyfleoedd lawer i David weithio tramor, gan gynnwys Awstralia a Seland Newydd. Ar hyn o bryd, David yw’r Cyfarwyddwr “Datblygu Cadwynau Cyflenwi Garddwriaeth” – prosiect, ledled Cymru, sydd yn ymchwilio i ac yn gwella’r cadwynau cyflenwi ar gyfer cnydau mwynderau a bwyd, o’r tyfwr i’r manwerthwr.
Mewn prosiectau blaenorol, David oedd Cadeirydd a Chyfarwyddwr Rhwydwaith Garddwriaeth Cymru, oedd yn datblygu marchnata ar gyfer tyfwyr cnyday garddwriaeth yng Nghymru ac Iwerddon. Ef hefyd oedd Prif Weithredwr Fforwm Diwydiant Tirlun Cymru. Mae’n aelod o Grŵp Strategaeth Garddwriaeth Cymru a’r Bwrdd Rheoli ar gyfer y Ganolfan Defnydd Tir Amgen. Mae David yn addysgu modiwlau ar wyddoniaeth planhigion. Y mae hefyd yn addysgu mewn tirlun ar gynaliadwyedd a’r defnydd o blanhigion, gan gyfeirio’n arbennig at newid hinsawdd a rheoli cynefin, ac mae wedi derbyn 4 RHS am ddylunio gerddi.
Peter Styles Dip Hort. (Kew), Dip LA, FLI, FRSA
Hyfforddodd Peter yn wreiddiol yn y Gerddi Botaneg Brenhinol yn Kew o dan John Brookes, cyn mynd ymlaen i astudio Dylunio Tirlun Busnes ym Mhrifysgol Greenwich. Mae ganddo hefyd ei fusnes tirlunio llwyddiannus ei hun (‘Lingard Styles’) yn y Trallwng a’r Amwythig.
Mae gan Peter wybodaeth a phrofiad aruthrol o fewn pob agwedd o dirlunio a dylunio gerddi ledled y DU a thramor. Mae hyn yn cynnwys gerddi sioe arobryn yn Chelsea a thair o’r ‘Gwyliau Gerddi Cenedlaethol’. Mae’n Gymrawd o’r ‘Sefydliad Tirlun’ ac o ‘Gymdeithas Frenhinol y Celfyddydau’, y mae wedi darlledu ar y radio a’r teledu ac wedi cyfrannu at nifer o gyhoeddiadau garddwriaethol a dylunio.
Nicola Sweeting
Mae Nicola yn ddylunwraig gerddi a chynllunydd garddwriaethol sy’n dylunio ystod eang o lefydd awyr agored ar gyfer cleientiaid preifat, yn amrywio o falconis trefol i erddi gwledig mawr. Nicola ar hyn o bryd yw’r Arweinydd Rhaglen ar gyfer yr HNC mewn Dylunio Gerddi, yn darlithio mewn hanes a theori gerddi, cadw a churadu gerddi cadwriaeth, a dylunio planhigion ar y cyrsiau HNC ac FdA mewn Celf a Dylunio ar gyfer Tirlun. Gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Hanes Celfyddyd eisoes, bydd Nicola yn cwblhau ei MA mewn Celfyddyd, Estheteg a Sefydliadau Diwylliannol ym Mhrifysgol Lerpwl yn 2010. Mae gwaith Nicola ym Mhrifysgol Glyndŵr yn anelu i annog myfyrwyr Dylunio Gerddi i edrych tu hwnt i agweddau ymarferol a garddwriaethol gerddi a dylunio gerddi yn athronyddol, yn artistig, yn hanesyddol ac yn gymdeithasol. Mae’r diddordebau ymchwil presennol yn cynnwys profiad esthetig tirlun.
Tamsin Young
Tamsin Young yw’r Arweinydd Rhaglen ar gyfer y Radd Sylfaen mewn Seicoleg Marchogaeth. Graddiodd o Brifysgol Caer yn 1996 gyda BSc Cyfun (Anrh) mewn Bywydeg a Daearyddiaeth ac MSc mewn Bywydeg Amgylcheddol. Yn ystod y ddwy raglen radd, roedd yr ymchwil a ymgymerwyd yn canolbwyntio ar les ac ymddygiad anifeiliaid. Yn 2002 fe ddechreuodd weithio ar PhD yn ymchwilio i’r heriau lles sy’n wynebu ceffylau rasio, sut i asesu heriau o’r fath a strategaethau ar gyfer eu lliniaru. Y mae’n gweithio ar hyn yn rhan-amser. Enillodd Tamsin gymhwyster Hyfforddwyr Cynorthwyol Cymdeithas Ceffylau Prydain yn 1993 a gwobr Rheolwyr Stabl Canolradd Cymdeithas Ceffylau Prydain yn 2002. Yn 1996 cafodd swydd yng Ngholeg Garddwriaeth Cymru yn darlithio ar gyrsiau addysg uwch a phellach mewn Astudiaethau Ceffylau ac Anifeiliaid.
Y mae wedi addysgu ar ystod o fodiwlau gan gynnwys Ymddygiad Anifeiliaid a Bywydeg Anifeiliaid. Yn 2002, cafodd ei phenodi yn Arweinydd Cwrciwlwm ar gyfer Astudiaethau Ceffylau, swydd y bu ynddi tan 2008 pan gafodd ei secondio i Brifysgol Glyndŵr i fod yn Arweinydd Rhaglen ar gyfer y Radd Sylfaen mewn Seicoleg Marchogaeth
|