Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Cyfleusterau

 
Rhaglen adnewyddu helaeth

Gwnaethpwyd buddsoddiad sylweddol yn ddiweddar yn yr adeiladau a’r campws, sydd erbyn hyn yn meddu ar ddarlithfeydd, cyfleusterau cynadledda, neuadd chwaraeon, gweithdai a labordai a llety myfyrwyr wedi’u hadnewyddu.

Mae myfyrwyr yn Llaneurgain yn cael y cyfle i ddefnyddio cyfleusterau Coleg Glannau Dyfrdwy, fel yr uned geffylau a'r tai gwydr ar y safle.

Sports Cyfleusterau

Yn y neuadd chwaraeon wedi’i hadnewyddu ar Gampws Llaneurgain, gellir chwarae pêl-fasged, badminton, pêl-rwyd, tennis bwrdd, pêl-droed pump bob ochr a phêl-foli. Croesewir gweithgareddau chwaraeon eraill, â chymryd eu bod ar gael. Gall myfyrwyr ymgymryd â gweithgareddau trwy gydol y dydd (â chymryd eu bod ar gael, gweler manylion llogi’r neuadd). Croesewir unrhyw archeb adloniannol masnachol a gellir ei llogi am sesiynau unigol neu gael ei bloclogi. Gellir defnyddio’r neuadd hefyd ar gyfer digwyddiadau, hyrwyddiadau a gweithgareddau addysgol (opsiwn Arlwyo ar gael). Mae’r campws hefyd yn darparu cyrsiau cyfeiriadu a rhedeg traws gwlad, ar gyfer pobl a cheffylau.  

Yn ogystal â’r cyfleusterau chwaraeon ar gampws Llaneurgain, bydd y myfyrwyr yn gallu gwneud defnydd o’r holl gyfleusterau sydd ar gael trwy’r Ganolfan Chwaraeon ar gampws Wrecsam. Mae’r rhain yn cynnwys cae hoci rhyngwladol sylfaen-dŵr, cae sylfaen-tywod ar gyfer pêl-droe, y Labordy Perfformiadau Dynol a, thu mewn i’r Ganolfan Chwaraeon, llawr pren sbringog 1000 medr sgwâr, stiwdio ddawns, ystafell ffitrwydd a chyfleusterau i wylwyr.
Gweler fwy o wybodaeth am Chwaraeon Prifysgol Glyndŵr

Canolfan Seminar ac Addysg Llaneurgain Prifysgol Glyndŵr

Er mwyn gwasanaethau ein hanghenion academaidd, mae gennym ystafelloedd seminar/cynhadledd ac addysgu bach a mawr, y mwyafrif ohonynt wedi eu hofferu gyda safon ragorol o ddarpariaeth TG. Gellir llogi’r cyfleusterau rhagorol hyn ar gyfer defnydd addysgol a chorfforaethol allanol. O fewn ein gwasanaeth gallwn gynnwys yn ein pris, yr opsiwn o ddarparu gwasanaeth arlwyo.

 

Uned Geffylau wedi’i Chymeradwyo gan y BHS

 
BHS 1

Mae’r Uned Geffylau wedi’i Chymeradwyo gan y BHS a’r Ganolfan Arholiadau yn darparu myfyrwyr gydag ystod o gyfleusterau ardderchog sy’n addas ar gyfer sesiynau a digwyddiadau ymarferol.

Mae’r cyfleusterau pwrpasol rhagorol ar y campws yn cynnwys arena dan do gydag oriel wylwyr (50x30), arena awyr agored â llifoeluadau (60x40), stablau, padogau a dau gwrs traws gwlad.

 Mae yna hefyd gyfleusterau ar gyfer marchogaeth ar dir y campws.
BHS 2

Mae’r Uned Geffylau wedi’i Chymeradwyo gan y BHS yn cynnal ystod eang o ddigwyddiadau gydol y flwyddyn, yn amrywio o gystadlaethau a chlinigau i sioeau a digwyddiadau hyfforddi.

Cynhelir digwyddiadau trwy’r adeg a bydd digonedd o gyfleoedd i’r rheiny nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â’r digwyddiadau i’w gwylio.

I’r rheiny sydd yn farchogion brwd, mae’r uned yn lleoliad poblogaidd ar gyfer clinigau a chystadlaethau a gynhelir gan bartïon cysylltiedig neu allanol, gan roi cyfleoedd ychwanegol i’r myfyrwyr gael profiad mewn meysydd o’r fath, yn aml gyda marchogion blaenllaw a hyfforddwyr ac arbenigwyr o fri. 

Llety ar y campws

 
Llety ar y campws 1

Ar hyn o bryd mae Neuadd Corbishley, y llety myfyrwyr yng nghampws Sir Fflint, wrthi’n cael ei hadnewyddu’n helaeth. Bydd yr adnewyddiad yma yn darparu llety modern, cyfforddus mewn lleoliad hardd i’r myfyrwyr hynny sy’n dewis byw ar y campws. Fe fydd yna gyfleusterau ardderchog ar y cyd gan gynnwys ystafell gyffredin a phatio / man barbeciw tu allan, sy’n darparu lle ychwanegol ar gyfer cymdeithasu ar nosweithiau braf.

 
Llety ar y campws 2
Mae’r neuaddau preswyl myfyrwyr wedi eu lleoli yn ganolog ar y campws, gan gynnig lle cyfleus i fyw tra’n astudio ym Mhrifysgol Glyndŵr Llaneurgain. Mae ganddynt hefyd olygfeydd ardderchog o’r tiroedd.
Gellir defnyddio wi-fi ym mhob ystafell, gan eu gwneud yn ddelfrydol i’r rheiny sydd yn hoffi astudio mewn heddwch ac yn nhawelwch eu hystafelloedd. 
Mae’r niferoedd yn gyfyngedig, felly fe’ch cynghorir i wneud cais am lety yn fuan. Am fwy o wybodaeth a ffurflenni cais am lety, gweler ein tudalennau llety.
 

Cyfleusterau chwaraeon

 
Cyfleusterau chwaraeon 1
Mae canolfan Llaneurgain Glyndŵr ar ei newydd wedd yn darparu neuadd chwararon a  chyfleusterau newid. Mae’r neuadd chwaraeon yn hwyluso gweithgareddau chwaraeon amrywiol, megis badminton, pêl-rwyd, tennis bwrdd, pêl-droed 5 bob ochr, pêl-fasged a phêl-foli. Croesewir gweithgareddau adloniannol eraill hefyd (os ydynt ar gael). Mae’r campws hefyd yn darparu cyrsiau cyfeiriadu a rhedeg traws gwlad, ar gyfer pobl a cheffylau. 
Mae’r neuadd hefyd yn lle delfrydol i gynnal digwyddiadau. Gall y digwyddiadau hyn fod yn rhai addysgol, corfforaeth neu ddatblygiadol eu natur. O fewn ein darpariaeth, gallwn hefyd gynnig gwasanaeth arlwyo a mynediad i ddarlithfeydd ar gyfer seminarau a phrydau bwffe.
Gyda’r nosau yn ystod yr wythnos, defnyddir ein neuadd chwaraeon gan glybiau a chymdeithasau allanol amrywiol. Mae yna le ac amseroedd yn dal ar gael ar hyn o bryd, ond mae’r diddordeb yn cynyddu.
 

Adnoddau dysgu

 
Adnoddau dysgu 1

Mae Prifysgol Glyndŵr a Choleg Glannau Dyfrdwy wedi ymuno mewn partneriaeth strategol i gyflenwi campws tirol unigryw ar safle Coleg Garddwriaeth Cymru.

Bydd hyn yn cynnig darpaeiaeth addysg uwch a phellach o fewn rhannau penodol o’r safle.
 
Fel rhan o’r datblygiad, mae buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud mewn llyfrau newydd ac adnoddau TG ar gyfer myfyfwyr ar ein campws yn Sir y Fflint. Mae myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr hefyd yn cael bod yn aelodau o’r gwasanaeth Llyfrgell ar ein campws yn Wrecsam.

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnwys trefniadau benthyg o’r ddeutu a chatalog ar y cyd gyda Llyfrgelloedd Prifysgol Bangor, yn ogystal â mynediad i’r ystod llawn o adnoddau sydd ar gael yng ngogledd Cymru trwy gynllun LINC y Gogledd.

Gall myfyrwyr ar y ddau gampws elwa o’r cymorth a gynigir gan staff Llyfrgell cymwynasgar a chyfeillgar Prifysgol Glyndŵr trwy gysylltu ag enquirydesk@glyndwr.ac.uk i ddechrau arni.

Ein campysau a’n cyfleusterau