|
|
Prifysgol Glyndŵr, LlanelwyWedi’i leoli yn Llanelwy, sir Ddinbych, mae Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy yn ganolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil a datblygiad technoleg opto-electronig flaengar. Mae’r safle yn cynnwys ysgolheigion sy’n cynnal ymchwil i feysydd hynod arbenigol o dechnoleg, ynghyd â busnesau sy’n ceisio datblygu’r dechnoleg honno er dibenion masnachol. Mae’r agwedd fentrus hon o bartneriaeth yn gwneud Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy yn rhan allweddol o’r Brifysgol a’r economi leol, genedlaethol a rhyngwladol ehangach.
Ganddynt arbenigedd a chyfleusterau uwchAgorwyd yr adeilad tirlun trawiadol yma yn 2004 a daeth y safle yn eiddo i Brifysgol Glyndŵr yn 2009. Mae Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy yn gartref i’r busnes masnachol OpTIC, gydag enw da gwerthfawr am gynllunio, datblygu a gweithgynhyrchu elfennau a systemau optegol ac opto-fecanyddol manwl. Yn arbennig, mae ganddynt arbenigedd a chyfleusterau uwch ar gyfer:
Dyma rai o lwyddiannau Prifysgol Glyndŵr, Llanelwy yn ystod y blynyddoedd diweddar:
Mae OpTIC Glyndŵr hefyd yn cynnwys canolfan ddeor sy’n darparu swyddfeydd ac ati ar gyfer busnesau newydd o feysydd diwydiant neu academia. I ddarganfod mwy am y gwaith sy’n cael ei wneud yn OpTIC, gan gynnwys newyddion am y prosiectau diweddaraf, cliciwch yma. |
|