Mae’r Ganolfan Dysgu Ail Iaith yn darparu rhaglen Iaith Saesneg Academaidd mewn-sesiynol i’r holl fyfyrwyr Rhyngwladol ac Ewropeaidd sydd wedi eu cofrestru ym Mhrifysgol Glyndŵr.
Yn dilyn prawf Saesneg diagnostig byr, rhennir y myfyrwyr yn grwpiau yn seiliedig ar eu gwybodaeth flaenorol o’r Saesneg yn eu prif faes pwnc. Mae’r rhaglen pwnc benodol, sy’n rhedeg ar y cyd â modiwlau craidd y myfyrwyr, wedi cael ei chynllunio i wella sgiliau ieithyddol ac academaidd myfyrwyr, yn ogystal â’u cynorthwyo i addasu i ddiwylliant Prydeinig yn gyffredinol ac i Addysg Uwch yn y DU yn benodol. Profwyd eisoes fod y modiwl atodol yma yn hybu llwyddiant myfyrwyr yn eu hastudiaethau, ac fe’u hanogir i’w fynychu yn rheolaidd.
Darperir hyfforddiant gan ddarlithwyr iaith profiadol â chymwysterau uchel. Cwmpasir meysydd traddodiadol siarad, ysgrifennu, gwrando a darllen academaidd ar y cyd â phynciau eraill megis geirfa pwnc benodol, gramadeg a materion cyfoes rhyngwladol ac sy’n ymwneud â’r DU.
Ceir asesu parhaus ym mhob un o’r pedwar sgil (darllen, ysgrifennu, gwrando a siarad) er mwyn monitro cynnydd myfyrwyr wrth gefnogi eu prif raglen. Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gwobrwyir y myfyrwyr â Thrawsgrifiad Prifysgol (20 UK HE credydau) Diwylliant Prydeinig a Saesneg Academaidd a fydd yn ddogfen ddefnyddiol ychwanegol ar gyfer dibenion cyflogaeth.
