|
Rhydych chi yma:
Hafan > Ein campysau a’n cyfleusterau
|
||
|
|
Ein campysau a’n cyfleusterauMae Prifysgol Glyndŵr yn un o’r prifysgolion sy’n tyfu gyflymaf yn y DU. Gan rychwantu ardal amrywiol a deinamig Gogledd Ddwyrain Cymru, mae’r brifysgol wedi datblygu ystod chwenychadwy o gyfleusterau a ddefnyddir gan fyfyrwyr, partneriaid diwydiannol a’r cyhoedd. Campws Plas Coch, ar Ffordd y Wyddgrug yn Wrecsam yw’r mwyaf o ddau safle’r brifysgol yn y dref sy’n cynnwys Canolfan y Diwydiannau Creadigol, Canolfan y Plentyn, y Teulu a Chymdeithas a Stadiwm Cae Ras Prifysgol Glyndŵr. Mae Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru wedi’i lleoli ar Stryt y Rhaglaw, ddeg munud i ffwrdd ar droed i gyfeiriad canol tref fywiog. Rhwng y ddau gampws mae gorsaf reilffordd Ganolog Wrecsam, ac mae’r orsaf fysiau wedi’i lleoli yng nghanol y dref, pum munud i ffwrdd ar droed o Stryt y Rhaglaw. Mae gan Brifysgol Glyndŵr hefyd gyfleusterau o ansawdd uchel ar gyfer addysg dirol ar ei champws yn Llaneurgain, Sir y Fflint, tra mewn man arall yn y sir mae Canolfan Hyfforddi a Datblygu Cyfansoddau Uwch yn Airbus yn ganlyniad partneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Glyndŵr, Airbus, Coleg Glannau Dyfrdwy a Llywodraeth Cymru. Yn Llanelwy mae OpTIC Glyndŵr y brifysgol, canolfan flaenllaw ar gyfer ymchwil a datblygu technoleg opto-electroneg flaengar. Dilynwch y dolenni ar ochr chwith y dudalen hon i archwilio ein hystod o gyfleusterau ar gampysau Gogledd Ddwyrain Cymru. Gobeithio y byddwch yn dod yma cyn bo hir i gael golwg ar y cyfleusterau yn un o’n dyddiau agored, ond yn y cyfamser beth am glicio yma i weld rhai o brif rannau’r brifysgol ac ardal hardd Gogledd Ddwyrain cymru yn ein taith ar-lein 360-gradd? |
|