Fel rhan o agenda Gweddnewid Llywodraeth Cynulliad Cymru i hybu partneriaethau o fewn addysg a hyfforddiant, mae Prifysgol Glyndŵr a Choleg Iâl wedi cyhoeddi eu bwriad i ymgymryd â Gwerthusiad Opsiynau i archwilio modelau partneriaeth amrywiol.
Mae’r Cyrff Llywodraethu priodol yn llwyr ymroddedig i sicrhau fod y broses yma yn parhau i fod yn wrthrychol ac yn cydnabod mai’r unig ffordd i gyflawni hyn yn iawn yw trwy benodi arsylwr allanol, annibynnol.
Cynhelir y Gwerthusiad Opsiynau yn ystod y misoedd nesaf a bydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae’r ddau Gorff Llywodraethu yn llwyr ymroddedig i gadw ethos a hunaniaeth eu sefydliadau eu hunain ond hefyd yn cydnabod mai trwy gydweithio y gellir hybu mwy ar y cyfleoedd ar gyfer dilyniant ac ansawdd addysg i ddysgwyr.
Mae pob Corff Llywodraethu yn dal i fod â meddwl agored ynghylch canlyniad y Gwerthusiad Opsiynau a dynodi model dewisol ar gyfer partneriaeth.
Dywedodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Glyndŵr, “Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r ddau sefydliad sicrhau fod isadeiledd addysg o safon ryngwladol yn cael ei gyflawni yn Wrecsam.”
Ychwanegodd Paul Croke, Prifathro Coleg Iâl, “ Rydym i gyd yn ymroddedig i sicrhau fod dysgwyr Wrecsam yn cael y cyfle i gyflawni eu llawn botensial ac mae’r Gwerthusiad Opsiynau yn ein darparu gyda’r mecanwaith delfrydol i archwilio’r ffordd orau o wneud hyn.
"Byddwn yn sicrhau fod holl fudd-ddeiliaid a phartneriaid y ddau sefydliad yn cael eu hysbysu’n llawn wrth i’r broses fynd rhagddi.”