|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2010 > Ysgoloriaeth Uwchraddedig 2010/11
|
||
|
|
Ysgoloriaeth Uwchraddedig Newydd 2010/1123 Gorffennaf 2010Yn dilyn cynllun cyffelyb a fu’n rhedeg am y tro cyntaf y llynedd, bydd myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyrsiau uwchraddedig ym Mhrifysgol Glyndŵr ym mis Medi yn derbyn gostyngiad o 50% oddi ar ffioedd eu cyrsiau. Mae’r ysgoloriaeth yn agored i bob graddedig o Brifysgol Glyndŵr, graddedigion o brifysgolion Cymreig eraill a graddedigion sydd wedi bod yn byw yng Nghymru ers tair blynedd cyn eu hastudiaethau uwchraddedig. Mae’n rhaid i’r graddedigion feddu ar radd anrhydedd neu gyfatebol. Mae telerau ac amodau eraill yn berthnasol. Dywedodd Dr Peter Heard, pennaeth yr Ysgol i Raddedigion ym Mhrifysgol Glyndŵr, fod gan ymgymryd ag astudiaeth uwchraddedig y potensial i roi’r blaen i raddedigion mewn marchnad gyflogaeth gynyddol gystadleuol. “Mae’r wybodaeth, dealltwriaeth ac arbenigedd uwch a geir yn sgîl cwrs uwchraddedig yn gallu eich gosod ar wahân pan fyddwch yn chwilio am waith,” meddai Peter. “Gyda’r DU yn profi lefelau uchel o ddiweithdra, fu yna erioed amser gwell – na phwysicach – i gael mantais gystadleuol a helpu i hybu eich rhagolygon gyrfaol.” Cwmpasir cyrsiau llawn amser a rhan-amser gan ysgoloriaeth uwchraddedig 2010/11 Prifysgol Glyndŵr, gan gynnwys pob cymhwyster MA, MSc, MBA, MRes, PGCert, PGDip, MPhil a PhD. Mae’r Brifysgol yn cynnig cannoedd o gyrsiau mewn ystod o bynciau, o Gelf a Dylunio, Amgylchedd Adeiledig, Busnes ac Addysg hyd at Beirianneg, Gwyddoniaeth a’r Amgylchedd, Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ac Ieuenctid a Chymuned. Am ffurflen gais neu i weld rhestr lawn o’r telerau ac amodau a’r rheolau cymhwyster, ewch i www.glyndwr.ac.uk. Ffoniwch 01978 293439 neu anfonwch ebost at sid@glyndwr.ac.uk am fwy o wybodaeth am ein hysgoloriaeth uwchraddedig a’r cyrsiau sydd ar gael. Diwedd |
|