Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Glyndŵr yn Wrecsam wedi datblygu technoleg ar gyfer cynhyrchu dyfais symudol er mwyn diheintio offer meddygol – gan ddefnyddio popty micro-don gwerth £40.
Darparodd y dyfais cegin cyffredin yr ateb i ymdrechion tîm o ymchwilwyr, dan arweiniad yr Uwch Wyddonydd Ymchwil, Dr Andy Wright, i feddwl am ffordd rad, rhydd o gemegion i ladd bacteria niweidiol ar offer meddygol a ddefnyddir mewn meddygfeydd Meddygon Teulu, deintyddion a milfeddygon.
Yn draddodiadol, defnyddiwyd ager ar dymheredd uchel i ddiheintio offer meddygol cyn eu defnyddio ar gleifion.
Fodd bynnag, wrth i facteria ddod yn fwy gwrthsafol i driniaethau o’r fath, defnyddiwyd mwy ar gemegion ffyrnig yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Yn awr, mae ymchwilwyr yn Uned Uwch-Ddefnyddiau’r Brifysgol wedi darganfod, trwy roi sugn-lestr yn sownd i bopty micro-don, y gellir cynhyrchu arllwysiadau plasma ar ffurf osôn ac ocsigen atomig – dau nwy ffyrnig sy’n effeithiol iawn i ladd bacteria.
Mae’r system yn dibynnu ar y meysydd trydanol dwys a gynhyrchir y tu mewn i ficro-don sy’n rhedeg ar bŵer isel.
Dywedodd Dr Wright fod profion wedi dangos fod y dechnoleg yr un mor effeithiol â’r dulliau ager presennol o ddiheintio, os nad yn fwy effeithiol – ond am gyfran fechan o’r gost.
Mae’r ddyfais yn gallu diheintio offer mewn pum munud neu lai gydag aer.
Meddai: “Y popty a ddewiswyd gennym yw’r math symlaf sydd ar gael ar y farchnad a gyda’r newidiadau a wnaethpwyd gennym, mae’r system yn costio llai na £2000.
"Ar hyn o bryd mae’r systemau diheintio mwyaf dibynadwy yn costio tua £70,000, sy’n golygu fod y system yma yn gost-effeithiol iawn.
“Maer dechnoleg ar gael yn awr er mwyn i ysbytai, meddygfeydd a deintyddion gyfnewid y dulliau diheintio ager am ddull plasma a brofwyd i fod yn 100% effeithiol yn erbyn y pathogenau mwyaf trafferthus.
"Achan fod y gost yn llawer is, mae’n addas iawn i’w ddefnyddio mewn meddygfeydd meddygon, deintyddion neu filfeddygon bychain, ble gellir diheintio offer meddygol bach yn gyflym cyn eu defnyddio.
“Fodd bynnag, un o’r prif fanteision yw ei faint bychan a’i bwysau isel.
"Mae’n golygu y gellir ei ddefnyddio hefyd gan ysbytai maes milwrol ynghyd â generadur symudol bychan.
"Gan hynny, nid oes yn rhaid anfon offer i ffwrdd i gael eu trin a gellir gostwng y gost o ddefnyddio eitemau tafladwy.”
Datblygwyd y dechnoleg ar gyfer y system yn sgil ymchwil sylfaenol y Brifysgol i ddefnyddiau haen denau nano-strwythuredog, a ddefndydir i gynhyrchu dyfeisiau megis gwydr hunanlanhaol a chaenau caled mewn peirianneg.
Mae ymchwil i haenau tenau a’r hyn sy’n eu nodweddu yn ffurfio craidd gweithgareddau’r Uned Ymchwil Uwch-Ddefnyddiau.
Mae’r labordy ymchwil yn un o chwe chanolfan ymchwil gwyddor defnyddiau ym Mhrifysgol Glyndŵr.