Rydym yn falch o gyhoeddi mai’r Athro Richard Day o Brifysgol Glyndŵr yn Wrecsam yw’r ail unigolyn i dderbyn Cadair Ymchwil Prifysgol Cymru.
Mae’r nawdd yn rhan o amcan Prifysgol Cymru o gefnogi lles economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a deallusol Cymru.
Bydd yn cefnogi’r gwaith o adeiladu a gwella gallu ymchwil addysg uwch yng Nghymru, yn gyson â chenhadaeth y sefydliad ac â’r sectorau blaenoriaeth a ddynodwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae hon yn un o saith Cadair Ymchwil newydd a ariennir gan y Brifysgol, gyda phump ohonynt wedi’u lleoli mewn sefydliadau sy’n ffurfio ‘Cynghrair Prifysgol Cymru’ sy’n cynnwys Prifysgol Cymru; Prifysgol Fetropolitan Abertawe; Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (UWIC); Prifysgol Cymru, Casnewydd; Prifysgol Glyndŵr a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Bydd y cadeiriau hyn hefyd yn ganolbwynt ar gyfer gwaith ar fentrau ar draws y Gynghrair.
Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda rhaglen diwydiant pwysig y Brifysgol, sef Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS).
Mae’r Athro Richard Day yn raddedig o brifysgolion Bryste a Llundain. Cafodd radd PhD mewn Ffiseg o Lundain cyn symud i Brifysgol Manceinion lle treuliodd 23 o flynyddoedd yn yr Ysgol Deunyddiau gan ddatblygu yn ystod y cyfnod hwnnw i fod yn ddarllenydd.
Mae diddordebau ymchwil yr Athro Day yn eang ac mae wedi gweithio ar brosesu polymer yn ogystal â chynhyrchu a nodweddu cyfansoddion matrics polymer a cherameg ac ewynnau polymer.
Gan gydnabod mai problem ddiwydiannol allweddol yn yr holl ddeunyddiau hyn yw’r cyflymder y gellir cynhyrchu deunyddiau a strwythurau, mae wedi neilltuo’r mwyafrif o’i ymchwil i chwilio am ffyrdd i leihau’r amser cynhyrchu.
Mae’r rhain yn cynnwys y defnydd o dechnegau a allai fod yn gyfarwydd yn y gegin: microdonnau a’r defnydd o gyfryngau trosglwyddo gwres hylifol (ffrïo dwfn).
Mae gan yr Athro Day ddiddordeb nid yn unig mewn cynyddu cyfradd y cynhyrchu ond hefyd cynnal ansawdd y deunyddiau a’r strwythurau a grëir.
Ef hefyd oedd Cyfarwyddwr cyntaf y Northwest Composites Centre, cynghrair sy’n cynnwys Prifysgolion Manceinion, Lerpwl, Bolton, Caerhirfryn a Glyndŵr. Mae bellach yn gweithio i Brifysgol Glyndŵr fel Athro Peirianneg Cyfansoddion Prifysgol Cymru.
O ddechrau fis Hydref, bydd yr Athro Day yn symud i weithio yn yr ‘Advanced Composite Training and Development Centre’, sef partneriaeth newydd rhwng Airbus; Prifysgol Glyndŵr; Coleg Glannau Dyfrdwy a Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Ar gael ei benodi i Gadair Ymchwil Prifysgol Cymru, dywedodd yr Athro Day: “Rwyf wrth fy modd i dderbyn y fraint hon yn dilyn fy apwyntiad diweddar ym Mhrifysgol Glyndŵr.
"Edrychaf ymlaen i gydweithio gydag aelodau Cynghrair Prifysgol Cymru, yn arbennig yr Athro Kelvin Donne, a wnaeth dderbyn Cadair Ymchwil gyntaf y Brifysgol.
"Yn dilyn amcanion Prifysgolion Cymru a Glyndŵr, mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddatblygu cyfansoddion er mwyn hybu ystod eang o ddiwydiannau yng Nghymru.”
Gan longyfarch yr Athro Day, dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Marc Clement: “Rwyf i wrth fy modd yn croesawu Richard Day yn Athro Peirianneg Cyfansoddion Prifysgol Cymru; bydd ei ymagwedd arloesol yn cyfrannu’n fawr at ymchwil diwydiannol Cynghrair Prifysgol Cymru, sy’n canolbwyntio ar helpu i hybu economi busnes Cymru.”