Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Mae Diwrnod Cefnogi Graddedigion

10 Mehefin 2010
Bydd graddedigion diwaith yng ngogledd Cymru yn cael cynnig o gyngor ac arweiniad am ddim er mwyn eu helpu i ddod o hyd i waith.

Mae Diwrnod Cefnogi Graddedigion Prifysgol Glyndŵr yn rhan o GradStart, cynllun Llywodraeth Cynulliad Cymru i helpu graddedigion sy’n byw neu’n astudio yng Nghymru i ddod o hyd i waith.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir Ddydd Mercher 16 Mehefin 2010, yn rhoi cyfle i raddedigion diweddar drafod sut i ysgrifennu CV o’r radd flaenaf, sut i farchnata eu hunain ar gyfer darpar gyflogwyr a ble i edrych am gyfleoedd profiad gwaith.

Bydd staff o Ganolfan Yrfaoedd Prifysgol Glyndŵr ar gael hefyd i gyflenwi cyfweliadau ffug.
Datgelodd ystadegau diweddar gan yr Uned Gwasanaethau Gyrfaoedd Addysg Uwch fod diweithdra ymhlith graddedigion yn y DU mor uchel â 44% erbyn hyn ar gyfer rhai cyrsiau gradd.

Meddai’r Cynghorydd Gyrfaoedd Neil Pritchard: “Mae dod o hyd i waith addas yn dal i fod yn bryder i gannoedd o raddedigion sy’n byw yng Nghymru, ond trwy gael gafael ar gyngor ynghylch gyrfaoedd, sgiliau cyfweld a chyfleoedd profiad gwaith, gall graddedigion roi eu hunain gam o flaen y gêm.

“Sefydlwyd y Diwrnod Cefnogi Graddedigion er mwyn helpu i roi hwb i yrfaoedd myfyrwyr, a bydd cefnogaeth trwy GradStart yn parhau i gael ei chynnig yn hyblyg ar ôl y digwyddiad.”
Bydd cynllun GradStart, menter Cymru-gyfan y mae pump o brifysgolion eraill ledled y wlad yn cymryd rhan ynddi, yn rhedeg hyd at fis Ionawr 2011. Fe’i cefnogir gan Fenter Cefnogi Economaidd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Cynhelir y Diwrnod Cefnogi Graddedigion rhwng 9.30am a 4pm Ddydd Mercher 16 Mehefin ar safle Plas Coch Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam. Mae’n agored i bob graddedig diwaith neu dangyflogedig  o’r DU neu’r UE sy’n byw yng Nghymru.

Er mwyn archebu ar-lein ewch i www.glyndwr.ac.uk/careers, neu fel arall ffoniwch y Ganolfan Yrfaoedd ar 01978 293240.
Cysylltwch a ni