Cais am geisiadau ar gyfer aelodau annibynnol newydd o Fwrdd y llywodraethwyr
22 Rhagfyr 2010
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion sy’n gwneud cyfraniad sylweddol i waith Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol fel aelodau annibynnol.
Mae Bwrdd Llywodraethwyr y Brifysgol yn gyfrifol ar y cyd am benderfynu ar gymeriad addysgol y Brifysgol, am alluogi’r Brifysgol i gyflawni a datblygu ei chenhadaeth a’i phrif amcanion o ddysgu, addysgu ac ymchwil, gan sicrhau hydaledd y Brifysgol a diogelu ei hasedau.
Mae Bwrdd y Llywodraethwyr, sydd â mwyafrif o aelodau annibynnol, yn cynnwys yr Is-Ganghellor (Prif Weithredwr) a chynrychiolwyr o blith y staff a’r myfyrwyr.
Mae arian cyhoeddus a phreifat yng ngofal y Bwrdd, ac mae gan ei aelodau ddyletswydd arbennig i ddilyn safonau uchel o lywodraeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau ac arddangos uniondeb a gwrthrychedd yn nhrafodion busnes y Bwrdd a dilyn polisi o ddidwylledd ac eglurder ble bynnag y bo modd.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 29ain o Ionawr 2011.
Am fwy o wybodaeth cliciwch yma.
