|
|
Cyhoeddi Dyddiad newydd ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam 201021 Ionawr 2010
Cyhoeddwyd y bydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam – yr unig ŵyl o’i bath yng Ngogledd Cymru – yn cael ei chynnal o Ddydd Iau 1 Gorffennaf tan Ddydd Sadwrn 10 Gorffennaf 2010. Cynhelir y sbloets wyddonol ymarferol, Gwychoniaeth, ar Ddydd Sadwrn 3 Gorffennaf. Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam yn cynnwys rhaglen lawn o ddigwyddiadau, wedi’u cynllunio i apelio at bobl o bob oedran a diddordeb – yn amrywio o ddigwyddiadau sy’n addas i blant i ddigwyddiadau wedi’u cynllunio i gefnogi busnes. Bydd y rhaglen yn llawn o sgyrsiau ac arddangosiadau, ffimiau ac arddangosfeydd gwyddoniaeth a thechnoleg. Bydd cystadleuaeth â thema wyddonol – un o elfennau mwyaf poblogaidd yr ŵyl ers iddi gael ei chyflwyno yn 2007 – yn cael ei chynnal drachefn yn 2010. Y Ddaear a’r Bydysawd; Byd yr Anifeiliaid; y Meddwl a’r Corff Dynol; a Gwreichion Llachar fydd pedair thema gŵyl 2010. Meddai Eur Ing Helen James, Cadeirydd Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam a Chyfarwyddwraig Weithredol ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Mae gennym gynlluniau mawr i wneud yr Ŵyl yn uchafbwyn calendr dechrau’r haf. Bydd gan yr ŵyl deimlad ffres a fydd yn ein hannog ni i gyd i ymchwilio, mwynhau, dysgu ac ailfeddwl ein syniadau am wyddoniaeth a thechnoleg. A, chydag amserlen haf, edrychwn ymlaen at gymryd mantais o’r nosweithiau goleuach a thywydd brafiach hefyd.” Mae’r newyddion diweddaraf am Ŵyl Wyddoniaeth Wrecsam ar gael ar-lein yn www.wrexhamsf.com. Bydd y rhaglen lawn o ddigwyddiadau yn cael ei rhestru ar y wefan pan gaiff ei chyhoeddi ym mis Ebrill. Beth am ddilyn yr ŵyl ar-lein ar Facebook neu Twitter, dechrau trafodaeth wyddonol neu anfon eich awgrymiadau atom? Dewch o hyd i ni ar Grwpiau Facebook neu ar Twitter yn @wrexhamscifest. Gofynnir i unrhyw un sy’n dymuno cael eu hychwanegu at restr bostio Gŵyl Wyddoniaeth Wrecsam er mwyn derbyn diweddariadau rheolaidd am yr ŵyl anfon eu cyfeiriad post llawn atom yn wsf@glyndwr.ac.uk neu ffonio 01978 293466. Denodd gŵyl 2009 dros 8,000 o ymwelwyr a chyfranogwyr o’r DU a thramor. Roedd yn cynnwys cyfres o sgyrsiau am yr awyrgylch ac awyr y nos wrth ddathlu Blwyddyn Ryngwladol Seryddiaeth 2009. |
|