Cwrs gradd newydd arloesol ar gyfer gweithwyr proffesiynol
14 Hydref 2010
Bydd cwrs gradd newydd arloesol yn galluogi staff ym meysydd gofal iechyd, addysg a gwaith cymdeithasol i gario ’mlaen i weithio tra’n cynnal ymchwil allweddol.
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi lansio ei rhaglen ddoethuriaeth broffesiynol gyntaf. Mae’r radd seiliedig-ar-ymchwil yn golygu y gall gweithwyr proffesiynol gael cymhwyster ar lefel ddoethuriaeth trwy lwybr gwahanol i astudiaeth brifysgol PHD arferol.
Dywedodd Nikki Lloyd-Jones, sydd yn cydlynu’r rhaglen, y byddai’r cwrs yn pontio bwlch pwysig rhwng astudiaeth academaidd ac ymarfer proffesiynol yn y gweithle.
Meddai: “Mae Prifysgol Glyndŵr yn ymfalchïo yn ei chysylltiadau gyda diwydiant a galwedigaethau ac mae’r ddoethuriaeth broffesiynol yn enghraifft arall o hyn. Mae’n hwb sylweddol i broffil ymchwil y brifysgol. Mae’r cwrs wedi’i gynllunio ar gyfer pobl mewn swyddi llawn amser sydd eisiau gwneud cyfraniad gwerth chweil i ymchwil yn eu gweithle ac ar adeg pan fo meddu cymwysterau da yn fwyfwy pwysig ar gyfer dilyniant gyrfaol."
Gellir astudio’r ddoethuriaeth broffesiynol naill ai’n rhan-amser neu’n llawn amser ac mae’n canolbwyntio ar bwnc ymchwil o ddewis y myfyrwyr eu hunain. Gyda phwyslais ar ddatblygu cymuned gefnogol o fyfyrwyr, cynhelir cyfres o benwythnosau preswyl bob blwyddyn academaidd yn Llyfrgell Sant Deiniol, Penarlâg, fel rhan o’r cwrs.
Mae’r graddau a ddyfernir o’r cwrs yn cynnwys Doethur mewn Gwyddorau Iechyd (D.H.Sci), Doethur mewn Iechyd Cyhoeddus (Dr. P.H.), Doethur mewn Addysg (Ed. D.) a Doethur Iechyd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (D.Health).
Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01978 293439 neu gweler ein tudalen doethuriaeth broffesiynol.
