|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2010 > Arbfawf Trên Hanes ar fin cael ei ehangu
|
||
|
|
Arbfawf Trên Hanes ar fin cael ei ehangu22 Ionawr 2010Ymddengys y bydd darlithoedd prifysgol ar wyddoniaeth, technoleg, economeg a busnes yn cael eu rhoi ar daith yn dilyn llwyddiant arbrawf arloesol pan roddwyd darlith hanes ar daith drên i Lundain. Ar Drên Amser Ddoe, a redwyd gan Brifysgol Glyndŵr a Wrecsam a Swydd Amwythig, cafodd teithwyr ar y trên 07.23 o Wrecsam i Lundain Marylebone gyfle i fwynhau darlith ddwyawr am hanes Llundain. Roedd y ddarlith, a roddwyd gan Rod Playford sy’n Ddarlithydd ym Mhrifysgol Gyndŵr, yn cynnwys pynciau fel Llundain Samuel Pepys, Tân Mawr Llundain a Sut y Lluniwyd Llundain gan y Tuduriaid Cymreig. Yn ôl Suzanne Riley, o Arloesiadau Glyndŵr, cafodd y profiad ymateb eithriadol o dda gan y teithwyr. Meddai: “Y ddarlith ar Lundain Samuel Pepys oedd y fwyaf poblogaidd o ddigon, ac roeddem wrth ein boddau gyda llwyddiant y trip. "Roedd yna gymysgedd o bobl ar y trên, yn amrywio o bobl fusnes i deuluoedd oedd yn mynd i Lundain am ddiwrnod allan. “Dywedodd y rhan fwyaf o deithwyr wrthym y buasen nhw’n dod ar fwy o’r tripiau felly ar hyn o bryd rydym yn canolbwyntio ar ddarparu cyfres newydd o ddarlithoedd ar bynciau eraill.” Roedd teithwyr y Trên Amser wedi meddiannu cerdyn B y trên ac yn gwrando ar ddarlith Mr Playford trwy glustffonau. Ar y daith yn ôl ar y trên 18.33 o Lundain i Wrecsam, cawsant gyfle i holi cwestiynau, ar ôl cael cyfle i ymweld â rhai o’r llefydd y soniwyd amdanynt yn y ddarlith gychwynnol. Dogfennwyd y ddarlith gan BBC Radio Wales – gyda’r daith arloesol yn cael ymateb cadarnhaol gan y teithiwr a’r darlledwr Michael Palin, a oedd yn Llundain Marylebone i lansio cyfres newydd o drenau. Ychwanegodd Suzanne: “Roedd yn wych cael cefnogaeth gan deithiwr mor brofiadol a ffigwr mor amlwg â Michael Palin. "Mae’n daith bedair awr o Wrecsam i Lundain, sy’n dipyn o siwrnai, ac mae gwrando ar ddarlith yn rhywbeth hynod o addysgol ac addysgiadol yn ogystal â bod yn ffordd wych o dreulio’r daith, fel y profodd y teithwyr drostynt eu hunain.” Am fwy o wybodaeth am deithiau trên amser yn y dyfodol, cysylltwch â Suzanne Riley ar 01978 293007 neu ebostiwch s.riley@glyndwr.ac.uk |
|