|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2009 > Y brifysgol yn edrych ar gysylltiadau Celtaidd gyda’r UDA
|
||
|
|
Y brifysgol yn edrych ar gysylltiadau Celtaidd gyda’r UDA14 Ionawr 2009
Treuliodd criw o fyfyrwyr Americanaidd chwe niwrnod yn Wrecsam fel rhan o daith astudio a gynlluniwyd i’w helpu i edrych ar gysylltiadau Celtaidd yr ardal gydag Appalachia yn nwyrain yr UDA. Roedd yr 17 o fyfyrwyr o Goleg Maryville, Tennessee, wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Glyndŵr ar ymweliad a gynlluniwyd gan arbenigwyr hanes y brifysgol i astudio diwylliant, iaith a threftadaeth yr ardal. Ymwelodd y myfyrwyr â safleoedd hanesyddol o bwys, gan gynnwys Castell Dolwyddelan a chastell Edward I yn Nghaernarfon, yn ogystal â Hen Gaer Croesoswallt, Llangollen a Chaer. Cawsont eu difyrru gan y côr o gyffiniau Wrecsam, Lleisiau Clywedog, dan arweiniad Sheila Birkhead, yn ogystal â chymryd rhan mewn gweithdy drama Cymraeg ym Mhrifysgol Glyndŵr yn seiliedig ar chwedlau’r Mabinogi. Arweiniwyd y myfyrwyr, oedd rhwng 20 a 22 oed, gan yr Athro Lori Schmied, ynghyd â’r Athro Paul Threadgill o Goleg Maryville. Roedd y ddau wedi ymweld â Wrecsam o’r blaen, fel rhan o gysylltiadau cyfnewid rhwng Prifysgol Glyndŵr University a Choleg Maryville yn y 1990au, a dywedont fod y datblygiadau yn y dref wedi gwneud argraff arnynt. Dywedodd yr Athro Schmied fod y myfyrwyr wedi treulio rhywfaint o amser hamdden yn Wrecsam ar ôl iddynt gyrraedd ar ddydd Mercher 7 Ionawr, ac roeddent wrth eu boddau gyda’r croeso cynnes a gawsont. Dywedodd ar ddechrau’r ymweliad mai amcan y rhaglen oedd tynnu ar y cysylltiadau rhwng Appalachia ac ardaloedd Celtaidd Prydain. “Mae gan Gymru gysylltiad cryf iawn gyda’n hardal ni. Roedd gymaint o’r mewnfudwyr a ddaeth i Appalachia o Gymru yn gweithio yn y pyllau glo, achos mai dyna oedd eu gwaith cyn iddyn nhw adael y wlad. “Nid yw’r myfyrwyr yn gwybod rhyw lawer am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Geltaidd. Maen nhw fel arfer yn cysylltu diwylliant Celtaidd gydag Iwerddon felly mae’n mynd i fod yn eitha profiad iddyn nhw weld yr amrywiaeth fawr o draddodiad Celtaidd yng Nghymru,’ meddai’r Athro Schmied. Ychwanegodd fod y myfyrwyr yn edrych ymlaen yn arbennig at y daith o amgylch y cestyll a’r siwrnai trwy Eryri. “Mae gan y myfyrwyr ddelwedd ramantus o’r tirlun Cymreig gyda chestyll a mynyddoedd. Rwy’n siŵr na chân nhw mo’u siomi,” meddai. Ychwanegodd yr Athro Threadgill fod ganddynt ddiddordeb hefyd mewn cymharu’r her o reoli parc cenedlaethol fel Eryri gyda’r her o reoli Parc Cenedlaethol y Great Smoky Mountain yn ne Appalachia, sy’n ddim ond 20 munud i ffwrdd mewn cerbyd o Goleg Maryville. Dywedodd Dr Kathryn Ellis, sy’n uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Glyndŵr, fod yr adran hanes wedi mwynhau croesawu’r myfyrwyr i Wrecsam ac yn arbennig i fod wedi adnewyddu’r cysylltiadau gyda chydweithwyr yng Ngholeg Maryville. “Mae gan Wrecsam a Gogledd Cymru lawer iawn iawn i’w gynnig i unrhyw un sydd â diddordeb mewn astudio treftadaeth a diwylliant Celtaidd, ac roedd yn bleser i ni rannu hynny gyda chydweithwyr a myfyrwyr o Goleg Maryville,” meddai. Gadawodd y criw Wrecsam ar ddydd Mawrth 13 Ionawr i barhau â’u taith astudio yng Ngogledd Iwerddon. |
|