|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2009 > Prifysgol yn ehangu ei chysylltiadau a Tsieina
|
||
|
|
Prifysgol yn ehangu ei chysylltiadau â Tsieina21 Hydref 2009
Mae Prifysgol Glyndŵr wedi rhoi pin ar bapur ar y cyntaf o 7 cytundeb arfaethedig i rannu ei hymchwil gyda’r un nifer o wahanol brifysgolion o fewn Chongqing yn ne orllewin Tsieina. Yn sgil y memorandwm newydd o ddealltwriaeth gyda Phrifysgol Post a Thelegyfathrebiadau Chongqing (PPTCG), bydd y ddwy brifysgol yn cydweithredu ym meysydd celf, busnes a pheirianneg. Bydd Prifysgol Glyndŵr yn dechrau dysgu myfyrwyr o PPTCG ar ei champws yn Wrecsam o fis Medi 2010. Bydd staff o PPTCG hefyd yn cael hyfforddiant Saesneg a bydd y prifysgolion yn cynnal ymchwil ar y cyd. Bydd y cytundeb yn para am 5 mlynedd i ddechrau. Mae’r Brifysgol yn gobeithio arwyddo cytundebau ymchwil ac addysgu cyffelyb ar y cyd gyda 6 phrifysgol arall yn Chongqing yn ystod y misoedd nesaf. Meddai Brian Foxon, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Yn awr ein bod ni wedi arwyddo’r cytundeb, rydym yn edrych ymlaen o ddifri at rannu ein syniadau a’n harbenigedd. “Mae’r cytundeb yn atgyfnerthu mwy ar ein cysylltiadau addysgol yn Tsieina, ac yn y dyfodol, trwy leoliadau cyfnewid, bydd yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr ni adref ehangu eu gorwelion mewn amgylchedd rhyngwladol. Ar hyn o bryd mae gan Brifysgol Glyndŵr gysylltiadau gyda mwy na 15 o gyrff addysgol yn Tsieina, gan gynnwys Prifysgol byd-enwog Renmin Tsieina. Bwrdeistref Chongqing yw un o’r rhai mwyaf poblog yn Tsieina ac yn gartref i 16 o brifysgolion. Mae’r sefydliadau eraill y mae Prifysgol Glyndŵr yn bwriadu arwyddo cytundebau â hwy yn cynnwys Prifysgol y De-Orllewin, Prifysgol Astudiaethau Rhyngwladol Sichuan, Prifysgol Gwyddorau Gwleidyddol a’r Gyfraith y De-Orllewin, Prifysgol Feddygol Chongqing, Prifysgol Technoleg a Busnes Chongqing a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Chongqing. Mae’r memorandwm newydd o ddealltwriaeth ynghlwm â chytundeb o gydweithredu yr arwyddodd Llywodraeth y Cynulliad gyda Llywodraeth Fwrdeistrefol Chongqing yn 2006, yn ymroi i gydweithio mewn 6 maes: datblygu masnach ac economaidd; addysg a hyfforddiant; yr amgylchedd; diwylliant; llywodraeth ac amaeth. |
|