Prifysgol Glyndŵr yn llamu ar y blaen yn y safleoedd cenedlaethol
13 Mai 2009
Mae addysgu o ansawdd ac un o’r cyfraddau cyflogaeth graddedig gorau yng Nghymru yn golygu fod Prifysgol Glyndŵr wedi mynd i fyny o ran safle mewn tabl cynghrair prifysgolion blynyddol a gyhoeddwyd heddiw.
Symudodd y brifysgol, sydd wedi’i lleoli yn Wrecsam, i fyny 11 safle yng Nghanllaw Prifysgolion 2010 papur newydd The Guardian.
Sicrhawyd y cynnydd ar safle y llynedd yn y tabl gan sgoriau llawer uwch am addysgu, a roddwyd gan fyfyrwyr gradd blwyddyn olaf, a chan ragolygon gyrfaol, pan oedd y brifysgol yn dal i gael ei hadnabod fel Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru.
Meddai’r Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr: “Mae symud i fyny 11 safle yn y tabl yn newyddion ardderchog ac yn dangos y camau rhagorol ymlaen y mae’r Brifysgol wedi’u gwneud y llynedd. Mae myfyrwyr sy’n astudio yma yn gadael gyda chyfle ardderchog o ddod o hyd i waith mewn swydd lefel-raddedig a dyna’r hyn yr ydym ni’n ei wneud – gweithio gyda diwydiant i gyflenwi cyrsiau sy’n darparu graddedigion gyda’r sgiliau a’r wybodaeth y mae cyflogwyr eu heisiau.
“Ond dim ond megis dechrau ydym ni gyda’r canlyniadau yma – rydym yn Brifysgol sydd ar gynnydd, yn brifysgol gyda dyfodol cyffrous o’n blaenau, a byddwn yn parhau i fuddsoddi a gwella a darparu ein myfyrwyr gyda’r profiad a’r addysg y maent yn eu haeddu.”
