Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Prifysgol Glyndŵr yn cynnal cynhadledd ar Wynebu’r Dirwasgiad

14 Ionawr 2009
Prifysgol Glyndŵr yn cynnal cynhadledd ar Wynebu’r Dirwasgiad

Mae gweithlu o sylwedd yn cynnwys pobl fusnes dylanwadol a gweithwyr llywodraeth yn cyfarfod ag arbenigwyr prifysgol i feddwl am gynllun i sirchau fod Gogledd Cymru yn goroesi’r argyfwng ariannol presennol hyd orau ei allu.  

Disgwylir i fwy na 50 ffigwr o’r byd busnes a llywodraeth leol fynychu cynhadledd a gynhelir gan Brifysgol Glyndŵr University yn Wrecsam ar ddydd Mercher 14 Ionawr.

Bydd y digwyddiad yn cael ei agor gan yr Athro Michael Scott, is-ganghellor Prifysgol Glyndŵr. Bydd y siaradwyr yn cynnwys Adrian Piper, cynrychiolydd Cymru o Fanc Lloegr,   Dr Janet Wademan, rheolwraig gyfarwyddwraig y cwmni datblygu busnes Van Helsing, a’r Athro Neil Garrod, cyfarwyddwr gweithredol menter ac ymrwymiad dinesig y brifysgol. Bydd Chris Burgoyne, o’r banc Swedaidd Handelsbanken, sydd â mwy na 50 cangen yn y DU, hefyd yn siarad yn y gynhadledd.

Meddai’r Athro Garrod: “Rydym eisoes wedi gweld fod economi Gogledd Cymru yn profi – ac yn dal i wynbeu – problemau dirfawr, gyda pherfformiad cwmnïau yn gwanhau a diweithdra cynyddol. 

“Mae gan Brifysgol Glyndŵr ran bwysig i’w chwarae wrth helpu i ffurfio a chefnogi adferiad economaidd. Gan weithio ar y cyd gyda’r sectorau cyhoeddus a phreifat rydym yn anelu i gynnig arweiniad, cefnogaeth a datrysiadau i helpu Gogledd Cymru trwy, ac allan o, ddirwasgiad.

“Mae gwrando ar y daroganwyr gwae a phoeni am gostau cynyddol a cholli swyddi yn berffaith ddealladwy ond ddim yn fuddiol iawn. Rydym eisiau helpu i sicrhau fod gweithredu adeiladol yn digwydd. Mae gan y llywodraeth ei ateb ei hun ar gyfer y DU ond bydd y gynhadledd yn ymwneud yn benodol â Gogledd Cymru a beth allwn ni fod yn ei wneud yn yr ardal i helpu’r economi trwy amseroedd anodd.” 

Bydd canfyddiadau o’r gynhadledd yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad ar ddechrau mis Chwefror.

“O’r foment y gwnaethon ni grybwyll y syniad am y gynhadledd, mae yna ddiddordeb aruthrol wedi bod o du diwydiant a llywodraeth leol,’ ychwanegodd yr Athro Garrod.

“Byddwn yn trafod syniadau yn y gynhadledd, yna bydd yr adroddiad yn cael ei lunio a’i anfon at y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd ac at bob AS yng Nghymru.

“Ni fydd ein gwaith yn dod i ben yn fan’no, chwaith. Rydym eisiau gweithredu fel seiat ddoethion i helpu economi Gogledd Cymru a byddwn yn parhau i ddatblygu strategaeth hyd yn oed ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi.”

Cysylltwch a ni