Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Peirannydd recordio yn graddio yn 74 oed

29 Medi 2009
Peirannydd recordio yn graddio yn 74 oed

Bydd peiriannydd recordio sain a fu’n gweithio ar Oliver!, y ffilm gerddorol boblogaidd o’r 1960au, yn un o’r bobl hynaf i raddio o brifysgol yng Ngogledd Cymru pan fydd yn gwisgo ei gap a’i ŵn y mis nesaf – yn 74 mlwydd oed.
 
Dychwelodd Clive Collins, o Landdulas, i astudio bum mlynedd yn ôl ar ôl penderfynu ehangu ei addysg yn dilyn gyrfa 50-mlynedd fel peiriannydd recordio a chyfathrebiadau.

Ar ôl cael dau lefel-A mewn Hanes a’r Gyfraith, aeth yn fyfyriwr israddedig ar radd Polisi Cyhoeddus a Chymdeithasol Prifysgol Glyndŵr dair blynedd yn ôl.
 
Yn rhyfeddol, llwyddodd Clive, un o 10 peiriannydd a fu’n gweithio ar Oliver! pan oedd yn gweithio yn Shepperton Studios, i oresgyn yr anhap o golli 12 wythnos o’r radd oherwydd salwch.

Bydd yn derbyn ei wobr mewn seremoni yn Neuadd William Aston y Brifysgol ar ddiwedd mis Hydref.
 
Meddai Clive: “Fi yw’r cyntaf o’m teulu i gael gradd felly’n mae’n siŵr ei fod yn dipyn o gamp. Pan ffoniodd fy narlithydd gyda’r newyddion, roeddwn i newydd gael newyddion teuluol trist, felly roedd clywed fy mod wedi pasio yn codi fy nghalon.   
 
“Yr unig drafferth ydi, yn awr fod gen i radd, mae pobl yn disgwyl i mi fynd ymlaen a gwneud mwy a mwy!” ychwanegodd Clive, a ddechreuodd MSc mewn Rheolaeth ym Mhrifysgol Glyndŵr y mis yma.
 
Mae cael gradd wedi gwireddu uchelgais Clive o gael yr addysg nas cafodd pan oedd yn iau.

Gadawodd yr ysgol yn 15 oed gan fynd yn brentis, yna, ar ôl cyfnod o bedair blynedd fel milwr cyffredin gyda Chorfflu Signalau Brenhinol y Fyddin, o 1953-57, aeth ymlaen i weithio i Deledu Cysylltiedig yn Shepperton Studios.
 
Symudodd Clive, sy’n hanu o Sutton Coldfield yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, i Ogledd Cymru yn 1972 a sefydlodd ei gwmni ei hun, Dart Aviation, gan ffynonellu a gwerthu offer cyfathrebiadau arbenigol i’r diwydiant awyrennau.

Ar y cyfan, bu’n gweithio mewn 36 o wledydd yn ystod ei yrfa, cyn lleihau ei ymrwymiad i’w gwmni rai blynyddoedd yn ôl. 

“Roedd yr holl yrru yn mynd braidd yn undonog ac roeddwn i’n dechrau blino’n rhwydd, felly erbyn hyn rydw i ond yn gwneud gymaint o waith ag yr ydw i eisiau,” ychwanegodd.
 
“Ers i mi gamu’n ôl ychydig o’r cwmni, darganfyddais fod gen i fwy o amser ar fy nwylo ac roeddwn arna’i i eisiau cwblhau fy addysg. 

“Pan oeddwn i’n 18 oed, yr unig gyfle oedd gennych chi o gael addysg brifysgol oedd os oeddech chi’n fab i feddyg, cyfreithiwr neu reolwr banc. Doedd na ddim yr un cyfleoedd ag sydd yna heddiw. Roedd fy nhad yn beiriannydd, felly dyna’r maes yr es i iddo hefyd.

“Y tristwch mwyaf ydi eich bod chi’n mynd yn fyfyriwr aeddfed ac, wrth astudio yn fy oed i, yn gallu gweld ble’r aethoch chi o’i le. Rydw i’n 74 oed yn awr ond petawn i wedi cael gradd anrhydedd pan oeddwn i’n 24, fe allwn i fod wedi gwneud gymaint mwy gyda’m gyrfa.” 
Mae Clive yn ymfalchïo yn y ffaith ei fod wedi dychwelyd i fyd addysg – a’r syndod ei fod wedi cyd-dynnu gyda’i gyd-fyfyrwyr sydd 50 mlynedd yn iau nag ef. 

“Mae’r holl brofiad wedi bod yn un boddhaol iawn,” meddai Clive. “Fel myfyriwr aeddfed roedd pobl yn eitha chwilfrydig ynglŷn â mi, ac roedd cael gymaint o barch gan y genhedlaeth iau yn dipyn o sioc. Ond yn sgil y profiad yr ydw i wedi’i gael yn ystod fy mywyd, roedd pobl ifanc eisiau dod i fy nabod i a chlywed am fy mhrofiadau.  

“Daeth un ferch ifanc ataf i un diwrnod a gofyn ‘Clive, ydych chi’n gwybod unrhyw beth am yr Ail Ryfel Byd?’ Wel, fe wnes i fyw trwy’r rhyfel, wrth gwrs, felly dyma fi’n rhoi darlith fach ugain munud i griw o tua deg o fyfyrwyr am y rhyfel.” 

Cysylltwch a ni