Owain y taclwr caled yn ymuno â'r Llewod
15 Mai 2009
Mae myfyriwr o Wrecsam yn ymbaratoi i gystadlu mewn taith rygbi cynghrair y Llewod Prydeinig ar ôl chwarae cyfres o berfformiadau buddugoliaethus dros ei wlad.
Mae’r prop Owain Brown, sy’n astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Glyndŵr, wedi cael ei ddewis yn un o sgwad 20-dyn ar gyfer tîm rygbi cynghrair myfyrwyr Llewod Academaidd Prydain ac Iwerddon.
Bydd y cyn hyfforddedig St Helens 24 oed yn chwarae mewn gêmau yn erbyn Serbia a Ffrainc ar daith Ewropeaidd ddiwedd Mai.
Bydd yn mynd i Ewrop gyda chefnogaeth Prifysgol Glyndŵr, sydd wedi talu £500 tuag at ei gostau teithio a llety o chwarae dros Gymru yn ystod y misoedd diwethaf.
Derbyniodd Owain yr alwad i’r Llewod yn dilyn cyfres o fuddugoliaethau tra’n chwarae i dîm rygbi cynghrair myfyrwyr Cymru.
Mewn pencampwriaeth cenhedloedd cartref ym Mhrifysgol Bradford, bu’n rhan o’r tîm Cymreig a sicrhaodd fuddugoliaeth o 31-16 dros Loegr, buddugoliaeth o 36-16 dros Iwerddon a buddugoliaeth o 26-22 yn erbyn cyd-fyfyrwyr o’r Alban, mewn gêm ble derbyniodd wobr chwaraewr gorau’r gêm.
Yna bu Owain yn gapten tîm Cenhedloedd Celtaidd a enillodd o 31-16 yn erbyn Lloegr mewn gêm brawf – perfformiad a sicrhaodd le iddo’n derfynol yn sgwad Llewod Prydain ac Iwerddon.
Meddai Owain: “Roeddwn wrth fy modd pan gefais yr alwad ffôn – wedi gwirioni. Nid yw’n rhywbeth yr ydych yn ei ddisgwyl pan mae yna bedwar tîm cenedlaethol a mwy na 100 o chwaraewyr i’r hyfforddwyr ddewis ohonynt.
"Mae’n deimlad mor wych a fedra’i ddim aros cael mynd ar y daith.”
Chwaraeodd Owain rygbi cynghrair am y tro cyntaf gyda thîm y Wrexham Raiders pan yn saith oed, cyn symud i chwarae i dîm y Widnes Tigers yn 11 oed.
Ar ôl cyfnod pedair blynedd yn yr Academi gyda chewri Goruwch Gynghrair St Helen, symudodd Owain dramor am yrfa fer gyda’r Moss Vale Dragons yn Wollongong, clwb rygbi cynghrair Awstralaidd ger Sydney.
Dychwelodd i’r DU yn 2005 gan arwyddo i’w glwb presennol, tîm amatur Halton Simms Cross ARLFC, ger Widnes.
“Yn y tymor hirach, fy nod yw bod mewn ymryson pan fydd sgwad nesaf y Llewod Academaidd yn cael ei ddewis, am daith tair gêm i Awstralia yn 2011,” ychwanegodd Owain. “Ond yn gynta mae mater bychan taith y mis yma.”
Cynhelir taith Llewod Academaidd Prydain ac Iwerddon o’r 22-29 o Fai.
