Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Lansiad Gogledd Cymru ar gyfer prosiect arweinyddiaeth £37m

27 Tachwedd 2009
Lansiad Gogledd Cymru ar gyfer prosiect arweinyddiaeth £37m

Lansiwyd menter gwerth £37m i ddatblygu arweinyddion busnes o safon rhyngwladol yng Ngogledd Cymru.

Bydd cangen Gogledd Cymru o Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru (ARC), a chanolfan ragoriaeth Cymru-eang wedi’i chefnogi gan Lywodraeth y Cynulliad, yn helpu i hybu sgiliau arwain a rheoli mewn miloedd o fusnesau yn yr ardal.

Bydd yn cael ei chyflenwi yng Ngogledd Cymru gan Tattum Guest Associates a Phrifysgol Glyndŵr.

Bydd y Brifysgol yn gweithredu fel sylfaen wybodaeth ar gyfer busnesau ac yn cefnogi eu hamcanion gydag ymchwil, gwybodaeth a hyfforddiant arweinyddiaeth.

Mynychodd y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau John Griffiths AC lansiad y prosiect yng Nghanolfan Reolaeth Prifysgol Glyndŵr yn Nhŵr Redwither, yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam.

Meddai: “Mae ar Gymru angen arweinyddion o’r safon uchaf i allu cystadlu yn fyd-eang ac yr ydym yn cefnogi dros 5,000 o fusnesau ledled Cymru dros gyfnod o bum mlynedd fel rhan o fenter Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru.

“Gwyddom fod gan ein sefydliadau addysg uwch lawer iawn o wybodaeth pan ddaw i sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth ac mae Prifysgol Glyndŵr mewn lle da i helpu i gefnogi’r prosiect yng Ngogledd Cymru.”

Yn ôl Graeme Wilkinson, Diprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Glyndŵr, roedd y ganolfan reolaeth newydd wedi’i chynllunio i osod y Brifysgol wrth galon cymuned fusnes yr ardal, ble gallai chwarae rôl werthfawr mewn cefnogi mentrau fel ARC. 

“Mae hwn yn ddatblygiad allweddol i’r Brifysgol ac yn un yr ydym yn falch dros ben o fod yn rhan ohono,” meddai. “Mae Prifysgol Glyndŵr yn brifysgol cymharol newydd ond mae gennym hanes hir o gydweithio’n agos gyda diwydiant yng Ngogledd Cymru. Mae cefnogi busnesau yn rhan allweddol o’n cenhadaeth a bydd ein cysylltiad ag Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru yn helpu i fynd â ni ymlaen wrth ddatblygu’r economi yng Ngogledd Cymru.”

Lansiwyd cangen Gorllewin Cymru o Arweinyddiaeth a Rheolaeth Cymru – sydd hefyd yn cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd – y mis diwethaf.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn ariannu’r prosiect yn rhannol gyda £16m o Gronfa Gymdeithasol Cydgyfeiriant Ewrop.

Diwedd

Cysylltwch a ni