Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gwobr Goffa er anrhydedd myfyrwraig nyrsio

23 Rhagfyr 2009

Mae darlithwyr nyrsio ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi talu teyrnged i fyfyrwraig ymroddedig a fu farw 19 mis yn unig ar ôl iddi gychwyn ar ei chwrs gradd trwy roi gwobr yn ei henw. 

Roedd Sylvia Crowe, o Tan-y-fron, Wrecsam, yn astudio ar raglen nyrsio BN (Anrh) y Brifysgol pan gollodd ei brwydr yn erbyn salwch byr ym mis Tachwedd 2007.

Er anrhydedd i frwdfrydedd ac ymroddiad Sylvia i nyrsio, sefydlodd y staff Wobr Goffa Sylvia Crowe ar gyfer y garfan ddiweddaraf o raddedigion nyrsio, a fyddai wedi rhannu eu dathliadau gyda hi.

Meddai Pam Hope, Arweinydd Pwnc ar gyfer Astudiaethau Iechyd: “Roedd Sylvia yn awyddus iawn i fod yn nyrs. Brwydrodd yn erbyn adfyd er mwyn cael lle ar y rhaglen ac roedd yn awyddus iawn i gwblhau ei hastudiaethau.

"Brwydrodd Sylvia yn galed iawn dros yr hyn yr oedd hi’n ei gredu ynddo, ac rydym yn anrhydeddu’r ymroddiad a’r ymrwymiad yma i fod yn nyrs.”

Gill Campbell, Uwch Ddarlithwraig mewn Nyrsio, oedd tiwtor personol Sylvia. Meddai: “I lawer o’n myfyrwyr, dyma oedd y tro cyntaf iddyn nhw golli ffrind ac roedd marwolaeth Sylvia yn andros o sioc iddyn nhw i gyd.

"Roedd arnom ni eisiau ei chofio gyda gwobr i fyfyriwr oedd yn rhannu ymroddiad ac ymrwymiad Sylvia i nyrsio.”

Dyfarnwyd y Wobr Goffa Sylvia Crowe gyntaf i Mark Quilter, o Abergele, oedd yn astudio BN (Anrh) Nyrsio Arbenigedd mewn Oedolion.

“Teimlais gymysgedd o emosiynau wrth dderbyn y wobr, gyda’r hapusrwydd o raddio yn gymysg â’r tristwch o golli ffrind,” meddai Mark, sy’n gweithio yn yr Uned Feddygol Ddwys yn Ysbyty Glan Clwyd.

Dywedodd Pam fod Mark yn rhannu’r un brwdfrydedd dros nyrsio â Sylvia ac yn sefyll allan ymhlith holl fyfyrwyr nyrsio y Brifysgol pan ddaeth i ddyfarnu’r wobr.

Ychwanegodd: “Roedd Mark yn ddewis amlwg. Y mae’n bendant yn chwaraewr tîm, yn arweinydd naturiol ond yn rhywun sy’n arwain trwy enghraifft ac yn ysbrydoliaeth i’w gyd-fyfyrwyr ac i’r staff addysgu.” 

Meddai Mark: “Mae’n wych cael cydnabyddiaeth trwy’r wobr yma ac mae clywed fy mod yn ysbrydoliaeth i’r criw i gyd wedi fy ngwneud i’n falch iawn ac wedi rhoi hwb ychwanegol o hyder i mi.”

Mae Mark, a fu’n gweithio fel diddanwr plant cyn penderfynu hyfforddi fel nyrs dair blynedd yn ôl, yn gobeithio mynd ymlaen i gael cymwysterau arbenigol i weithio fel nyrs ardal yn y dyfodol.

Cysylltwch a ni