Gwefan Prifysgol Glyndŵr yn cael gweddnewidiad
26 Chwefror 2009
Ar ddiwedd Chwefror 2009 (ac mewn pryd ar gyfer sefydlu’r Brifysgol yn swyddogol), mae’n bosibl y byddwch yn sylwi ar rai newidiadau i wefan Prifysgol Glyndŵr.
Mae tîm o weithwyr gwe proffesiynol, yn aelodau o staff ac ymgynghorwyr allanol, wedi bod yn gweithio’n ddiwyd yn ystod y chwe mis diwethaf i ail-lunio’r wefan fel ei bod yn cwrdd â’i chanllawiau brand (ysgrifenedig a gweledol) ac yn cynrychioli ethos entrepreneuraidd y Brifysgol yn well.
Yn ogystal â’r elfennau dylunio newydd, maent wedi cynnal profion labordy defnyddioldeb gyda myfyrwyr; wedi dadansoddi canlyniadau arolygon a gwblhawyd gan staff, myfyrwyr, cynfyfyrwyr a gwe ddefnyddwyr eraill; ac wedi datgymalu data Dadansoddiadau Google er mwyn rhoi darlun cyfannol i ni o beth oedd yn gweithio a beth oedd ddim yn gweithio.
Mae’r safle newydd yn ymateb i argymhellion o’r ymchwil yma ac yn helpu i flaenoriaethu gwybodaeth sy’n helpu darpar fyfyrwyr a chleientiaid presennol a phosibl eraill i ddod i benderfyniadau deallus ynghylch eu dewis o brifysgol.
Ein gwefan yw’r ffordd gyntaf i’n cyfranddalwyr ddod o hyd i wybodaeth am y Brifysgol, a chan hynny y mae’n un o’n “cyhoeddiadau” pwysicaf – mae dros 30% o bobl sy’n gwneud ymholiadau amdanom ar hyn o bryd yn nodi mai trwy “chwilio’r we” y maent yn clywed amdanom gyntaf, yn llawer mwy nag unrhyw ffordd arall, gan gynnwys clywed gan bobl eraill neu hyd yn oed wybodaeth leol.
Gobeithio fod y safle newydd yn eich plesio a’i bod yn gweddu i’ch anghenion hefyd. Gellir anfon eich sylwadau a’ch ymateb at marketing@glyndwr.ac.uk
