Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Gwaith celf i fywiogi arosfannau bysiau pentrefi

30 Ionawr 2009
Gwaith celf i fywiogi arosfannau bysiau pentrefi

Bydd teithwyr sy’n aros am y bws mewn tri pentref yng Ngogledd Cymru yn gallu gwneud hynny cyn hir tra’n edmygu gwaith gan fyfyrwyr o ysgol gelf arobryn.
 
‘Aros’ yw’r arddangosfa o waith awyr agored ddiwethaf gan y criw celf Tu Chwith Allan, cynulliad o fyfyrwyr a graddedigion o Ysgol Gelf a Dylunio Gogledd Cymru ym Mhrifysgol   Glyndŵr.
 
Bydd gwaith celf yn cael ei arddangos mewn arosfannau bysiau ym mhentrefi cyfagos  Pandy, Tregeirog a Llanarmon Dyffryn Ceiriog, ger Wrecsam, o ddydd Sul 1 Chwefror.
 
Meddai Diana Baur, cyd-sylfaenydd Tu Chwith Allan: “Rydym yn falch dros ben ein bod ni wedi cael caniatâd gan gynghorau Dyffryn Ceiriog i arddangos ein gwaith celf yn yr arddangosfa brofi hon.

“Mae’r artistiaid yn sylweddoli y gallai fod yna beryglon mewn arddangos mewn mannau cyhoeddus, ond rhan o’u cenhadaeth yw gwneud celf yn rhywbeth sydd ar gael i’r cyhoedd.

“Rydym yn cychwyn ar y prosiect yma ym mis Chwefror, ond bydd gweithiau eraill yn cael eu harddangos yn yr un modd trwy gydol 2009, er enghraifft bydd ein harddangosfa Fai yn rhedeg o Fai 10 – 25.”
 
Sefydlwyd y criw celf Tu Chwith Allan yn wreiddiol gan Diana Baur a John Swogger fel cyfle i artistiaid proffesiynol a gweithredol yn ac o amgylch Dyffryn Ceiriog arddangos eu gwaith mewn lleoliad pentref-eang.
 
Arddangosodd y criw eu gwaith gyntaf yn Llanarmon Dyffryn Ceiriog ym mis Mehefin 2008. Roedd yr arddangosfa bythefnos, a ddenodd dros 1000 o ymwelwyr i’r pentref, yn cynnwys cyfraniadau gan amrywiaeth eang o artistiaid, gan gynnwys paentwyr, cerflunwyr, gweithwyr gwydr, artistiaid tecstil ac artistiaid tirlun. 
 
Mae chwe darn o’r arddangosfa wedi cael eu gwerthu ers hynny, gan gynnwys gweithiau cerflun, gwydr, cerameg a phaent.
 
Bydd y gwaith yn cael ei arddangos fel rhan o ‘Aros’ o ddydd Sul 1 Chwefror tan ddydd Sadwrn 28 Chwefror 2009.

Cysylltwch a ni