|
Rhydych chi yma:
Hafan > Cysylltwch a ni > Swyddfa'r Wasg > Datganiadau i’r wasg 2009 > Graddedig yn dathlu llwyddiant swydd lewyrchus
|
||
|
|
Graddedig yn dathlu llwyddiant swydd lewyrchus10 Gorffennaf 2009
Mae myfyrwraig o Brifysgol Glyndŵr wedi profi fod yna waith yn y farchnad swyddi graddedigion sydd wedi cael ei tharo gan y dirwasgiad ar ôl iddi gael swydd lewyrchus gydag un o gwmnïau cyfrifwyr mwyaf y byd. Bydd Stephanie Emery, o Wrecsam, yn dechrau gweithio fel cynghorydd trethi corfforaethol dan hyfforddiant i KPMG ym mis Medi ar ôl achub y blaen ar filoedd o raddedigion yn y DU. Cafodd Stephanie y swydd er gwaetha’r gostyngiad dramatig mewn swyddi i raddedigion sydd ar gael yn y DU a’r gystadleuaeth gynyddol am waith, gyda mwy na 48 o raddedigion yn ceisio pob swydd lefel raddedig ar hyn o bryd. Cred Stephanie, a raddiodd mewn Cyfrifeg Busnes, ei bod wedi llwyddo oherwydd iddi gael profiad gwaith tyngedfennol a gwneud y mwyaf o fanteision gwasanaeth gyrfaoedd prifysgol. “Roeddwn i’n eistedd mewn gwers gyllid pan dderbyniais yr ebost yn cynnig y swydd i mi,” meddai Stephanie. “Roeddwn i wedi gwirioni’n lân. Rydw i wedi bod yn gwneud pob math o wahanol waith yn ystod y blynyddoedd diwetha – yn ateb ffôn, yn copïo dogfennau, yn gweithio ar ddatganiadau treth a TAW cyn mynd ymlaen i ddilyn cyfrifwyr cymwysedig – ac rydw i mor falch fod hyn i gyd wedi bod yn werth chweil. “Nid bod y gwaith yn arbennig o feichus na llafurus ond fe oedd yn werthfawr dros ben. Roedd yn golygu, pan es i’r cyfweliadau gyda KPMG, fy mod i’n medru dangos ymrwymiad ac ymroddiad i fy ngyrfa.” Daw llwyddiant Stephanie wrth i ffigurau newydd ddatgelu bod graddedigion Prifysgol Glyndŵr yn dal i berfformio’n dda yn y farchnad swyddi. Datgelodd arolwg diweddaraf Cyrchfan Gadawyr Addysg Uwch yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch fod y raddfa gyflogadwyedd ar gyfer graddedigion Prifysgol yn 94.1% - i fyny o 93.5% yn 2006/07. Meddai Neil Pritchard, sy’n gynghorydd gyrfaoedd ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Heb os nac oni bai mae yna farchnad swyddi galed allan yna i raddedigion ar hyn o bryd ond mae myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr yn dal i berfformio’n dda pan mae’n dod i chwilio am waith. “Dechreuodd Stephanie feddwl am ei gyrfa yn gynnar a bu hyn yn werth chweil iddi. Mae ei chyflawniad i’w ganmol yn fawr gan fod cystadleuaeth am lefydd ar gynllun graddedigion KPMG yn ffyrnig – mae’r cwmni yn drydydd mewn rhestr o 100 o gyflogwyr graddedigion uchaf y DU. “Mae Stephanie wedi llwyddo yn sgil gwaith caled, agwedd gadarnhaol a’r ffaith fod ganddi brofiad gwaith perthnasol i ddatblygu ei sgiliau, sy’n rhywbeth y mae cyflogwyr yn ei werthfawrogi o ddifri.” Brwydrodd Stephanie trwy broses ddethol drwyadl oedd yn cynnwys ffurflen gais, profion seicometrig, asesiadau grŵp a chyfweliadau un-i-un. “Fy nghyngor i i unrhyw fyfyrwyr ynghylch cynllunio eu gyrfa yw gwneud hynny’n fuan – a pheidiwch â disgyn i’r meddylfryd o ‘Mi fedra i ddechrau chwilio am waith ar ôl i mi orffen coleg.’ Byddwch yn gwneud pethau’n llawer anoddach i chi eich hun pan fyddwch yn chwilio am eich swydd gynraf ar ôl graddio.” Gall Canolfan Yrfaoedd Prifysgol Glyndŵr helpu graddedigion o bob prifysgol yn yr ardal leol. Mae’r gwasanaethau ar gynnig yn cynnwys cyngor gyrfaol, paratoi ar gyfer cyfweliadau a chyfleoedd profiad gwaith. Am fwy o wybodaeth ewch i www.glyndwr.ac.uk neu ffoniwch 01978 293240. |
|