Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Graddedigion Prifysgol Glyndŵr Ymhlith y Rhai Sy'n Ennill y Cyflogau Uchaf Yng Nghymru, yn ôl arolwg

17 Medi 2009

Dengys data am gyflogau graddedigion ar gyfartaledd i fyfyrwyr mewn prifysgolion yn y DU, a gasglwyd gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU), fod y rheiny o Brifysgol Glyndŵr ymhlith y ddwy brifysgol uchaf yng Nghymru a’r 50 uchaf yn y DU o ran ennill cyflog.

Gall myfyrwyr sy’n astudio yn y Brifysgol yn Wrecsam ddisgwyl ennill cyflog o oddeutu £19,309 ar ôl iddynt adael, yn ôl y ffigurau.

Datgelwyd yr ystadegau yn y canllaw prifysgolion diweddaraf, a gyhoeddwyd yn The Sunday Times yr wythnos yma, fisoedd yn unig ar ôl i ffigurau AYAU ddangos fod graddedigion Prifysgol Glyndŵr ymhlith y mwyaf cyflogadwy yng Nghymru, gyda’r brifysgol yn cofnodi cyfradd cyflogadwyedd o 94.1% ar gyfer ei graddedigion i gyd.

Meddai Karen Lennox, pennaeth gyrfaoedd ym Mhrifysgol Glyndŵr: "Mae’r ystadegau hyn yn dangos fod ein graddedigion yn cael swyddi – ac yn cael swyddi da. Mae cyngor gyrfaoedd ar gael i fyfyrwyr trwy gydol eu hamser yma ac rydym wrth ein boddau fod y paratoadau yr ydym yn eu darparu iddynt er mwyn chwilio am swyddi yn amlwg yn llwyddo."

Enwyd Prifysgol Glyndŵr hefyd fel yr ail le rhataf i fyw yn y DU yn y canllaw blynyddol i brifysgolion yn y DU.

Mae myfyrwyr sy’n astudio yn Wrecsam ac yn byw mewn llety prifysgol yn talu £40 yr wythnos ar gyfartaledd.

Cysylltwch a ni