Gadawyr ysgol yn edrych ymlaen i’r dyfodol
22 Ebrill 2009
Mae miloedd o ddisgyblion chweched dosbath sydd wedi gosod eu bryd ar fynd i brifysgol wedi bod yn cynllunio eu cam nesaf yn Wrecsam.
Cynhaliodd Prifysgol Glyndŵr Ffair UCAS flynyddol yn y neuadd chwaraeon ar ei gampws yn Wrecsam ddydd Mawrth 21 Ebrill.
Mynychwyd y digwyddiad gan brifysgolion a cholegau addysg uwch o bob cwr o’r DU, yn cynnig cyngor ac arweiniad i fyfyfrwyr sy’n gobeithio parhau â’u hastudiaethau.
Roedd arbenigwyr o Brifysgol Glyndŵr hefyd wrth law i siarad â myfyrwyr am bopeth o gyrsiau astudio sydd ar gael i ffyrdd o ariannu astudiaeth addysg uwch.
Ymunwyd â nhw gan Faer Wrecsam, y cynghorydd David Griffiths, a’r Faeres, Denise Griffiths.
Roedd trefnydd y digwyddiad, Sarah Louise Edwards, Cydlynydd Ehangu Mynediad ym Mhrifysgol Glyndŵr, wrth ei bodd gyda llwyddiant y diwrnod.
Meddai: “Mae dewis y cwrs iawn a’r brifysgol iawn yn un o’r penderfyniadau pwysicaf y mae pobl ifanc yn eu gwneud bob blwyddyn ac yr oeddem yn falch o fod wedi helpu i chwarae rhan yn hyn.
“Rydym wedi bod yn rhedeg y ffeiriau hyn ers rhai blynyddoedd bellach a hon oedd yr orau yn bendant o ran faint o bobl wnaeth fynychu. Mae mynd i brifysgol yn brofiad mor werthfawr a gwerth chweil a dangosodd y digwyddiad fod addysg uwch yn dal i fod mor boblogaidd ag erioed.”
