Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Entrepreneuriaid ifanc yn rhannu syniadau busnes

19 Ionawr 2009
Entrepreneuriaid ifanc yn rhannu syniadau busnes

Mae entrepreneuriaid yn eu harddegau wedi bod yn arddangos eu syniadau busnes gorau i banel o feirniaid prifysgol. 

Gwahoddwyd disgyblion TGAU Blwyddyn 11 o Ysgol Bryn Alyn, Gwersyllt, ac Ysgol Uwchradd Dewi Sant, Saltney, i gymryd rhan mewn cystadleuaeth yn arddull Dragons Den ym Mhrifysgol Glyndŵr ar ddydd Iau 15 Ionawr.

Cyflwynwyd myfyrwyr i’r cysyniad o fenter cyn cael eu rhannu’n grwpiau i drafod syniadau busnes. Yna, ar ddiwedd y dydd, aethont ati i gyflwyno eu syniadau i banel o feirniaid.

Roedd y rhain yn cynnwys Sam Clutton, Swyddog PTG Prifysgol Glyndŵr, a’r cynghorydd gyrfaoedd Nest Thompson, ynghyd â Val Ashall o Gyrfa Cymru a Peter Forshaw o’r Ymddiriedolaeth Ddiwydiannol.

Roedd y cais llwyddiannus am gynnyrch ‘iLyfr’ newydd, sef cyfrifiadur addysgol wedi’i gynllunio i gael ei adeiladu i mewn i ddesgiau disgyblion yn yr ysgol. Roedd noddweddion y cynnyrch yn cynnwys batri oedd yn trydanu’n awtomatig ar ddiwedd y diwrnod ysgol a dolenni â chyfrifiadur athrawon i fonito gwaith disgyblion. 

Esboniodd disgyblion sut y buasent yn goresgyn cost uchel anochel y cynnyrch wrth helpu i hybu busnes llwyddiannus, trwy gynnig bargeinion brasbrynu i gwsmeriaid. 

Dyweodd y beirinaid fod elfen hwyliog, addysgol y cynnyrch wedi creu argraff arnynt, ynghyd â’r cynllun busnes da a gyflwynwyd gan y disgyblion. 

Meddai Judith Alexander, Rheolwraig Zôn o’r Ganolfan Dysgu Entrepreneuraidd ym Mhrifysgol Glyndŵr: “Fe wnaeth yr holl ddisgyblion a gymrodd ran fwynhau eu hunain i’r eithaf, ac roedd yn bleser eu croesawu nhw yma.

“Cafodd y beirniaid eu plesio’n arw gan yr holl syniadau a gyflwynwyd iddynt, ond yn y pen draw roedd yn rhai i ni ddewis enillydd. Er, profodd y digwyddiad fod yna ddigonedd o entrepreuneriaid ifanc gaddawol yn ardal Wrecsam.

“Gobeithio fod y myfyrwyr wedi elwa o’r diwrnod. Rhoddodd brofiad o fywyd prifysgol iddyn nhw a’u cyflwyno i’r syniad fod cychwyn eu busnes eu hunain yn gallu bod yn ddewis gyrfa iddynt.” 

Trefnwyd y digwyddiad gan y Ganolfan Dysgu Entrepreneuraidd ym Mhrifysgol Glyndŵr mewn partneriaeth ag Ymestyn yn Uwch, Ymestyn yn Ehangach, grŵp addysgol sy’n anelu i gynyddu cyfranogiad addysg uwch yng Nghymru.

Meddai Sarah Al-Assaf, Swyddog Cydlynu Ardal ar gyfer Ymestyn yn Ehangach: "Mae’r prosiect Ymestyn yn Ehangach yn anelu i gysylltu â dysgwyr ifanc mewn ysgolion lleol i godi ymwybyddiaeth ac uchelgeisiau ynghylch mynd ymlaen i addysg uwch, a’u helpu i gyflawni eu potensial eu hunain.

“Roedd y myfyrwyr wedi meddwl am rai syniadau busnes gwych, ac wedi rhywfaint o nerfusrwydd i ddechrau, fe wnaethon nhw fwynhau rhoi cyflwyniad i’r dreigiau!”

Cysylltwch a ni