Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Dirprwy Weinidog yn ymweld â safle Coleg Garddwriaeth Cymru

9 Medi 2009
Dirprwy Weinidog yn ymweld â safle Coleg Garddwriaeth Cymru #1

Bydd Dirprwy Weinidog dros Sgiliau Cymru, John Griffiths AC, yn ymweld â safle buddsoddiad newydd cyfun gwerth £4m mewn addysg uwch a phellach yng Ngogledd Cymru heddiw.

Bydd Mr Griffiths yn ymweld â safle Coleg Garddwriaeth Cymru yn Llaneurgain, Sir y Fflint, ar ddydd Mercher y 9fed o Fedi.

Bydd yn mynd o amgylch y safle yn dilyn y cyfuniad ar y 1af o Awst 2009 pan drosglwyddwyd pob darpariaeth addysg bellach yn y coleg i goleg Glannau Dyfrdwy a chafodd yr addysg uwch ei throsglwyddo i Brifysgol Glyndŵr.

Dyma’r cyfuniad cyntaf yng Nghymru i weld addysg uwch a phellach yn cael eu cyflenwi gan ddau sefydliad gwahanol trwy cyfleusterau ar y cyd.

Dirprwy Weinidog yn ymweld â safle Coleg Garddwriaeth Cymru #2

Yn ystod yr ymweliad bydd y Gweinidog yn cael cyfle i siarad â’r derbyniad newydd o fyfyrwyr addysg bellach yn ogystal â thrafod addysg tirol gyda staff addysg uwch a phellach.

Bydd y Gweinidog yn ymweld â phob un o bum maes y coleg – Gofal Anifeiliaid, Ceffylau, Garddwriaeth, Peirianwaith a Blodeuwaith – yn ogystal â chael golwg ar yr adeiladau Prifysgol Glyndŵr wedi’u hadnewyddu lle bydd darpariaeth addysg uwch yn cael ei chyflenwi.

Meddai David Jones, Prifathro Coleg Glannau Dyfrdwy: “Yn dilyn cyfuniad Coleg Glannau Dyfrdwy gyda Choleg Garddwriaeth Cymru, mae’n bleser gennym groesawu’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau i’n Campws yn Llaneurgain ac edrychwn ymlaen at ddangos iddo yr addysg tirol ardderchog a ddarperir. Y cyfuniad yw’r cam cyntaf mewn creu canolfan o ragoriaeth ar gyfer y sector tirol yng Nghymru, wedi’i lleoli yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Dim ond dechrau cynllun buddsoddi gwerth £12m sydd gennym ar gyfer y tair blynedd nesaf yw’r datblygiad Canolfan Addysg gwerth £3m y bydd Coleg Glannau Dyfrdwy yn ei chwblhau yng nghampws Llaneurgain yn ystod y deg mis nesaf. Mae dros 200 o staff a bron i bum mil o fyfyrwyr wedi symud o Goleg Garddwriaeth Cymru i Gampws Llaneurgain Coleg Glannau Dyfrdwy yn dilyn y cyfuniad pwysig yma. Mae ein cynlluniau buddsoddi, a gefnogir gan Lywodraeth y Cynulliad, yn bleidlais o hyder ynddynt i gyd, ac yn fuddsoddiad anferth yn eu dyfodol ac economi’r sector tirol yng Nghymru.”  

Dywedodd yr Athro Michael Scott, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr, ei fod yn gyffrous ynghylch symudiad y Brifysgol i Sir y Fflint.

“Mae’r bartneriaeth newydd yma yn golygu y bydd Prifysgol Glyndŵr yn mynd i lawr mewn hanes fel y brifysgol gyntaf yn Sir y Fflint. Y mae’n rhywbeth yr ydym yn eithriadol o falch ohono ac y gobeithiwn adeiladu arno, gyda chefnogaeth Llywodraeth leol a chenedlaethol yn y blynyddoedd sydd i ddod,” meddai. 

“Byddwn yn dechrau addysgu ein cyrsiau gradd newydd o’r fan hon y mis yma ac maent eisoes yn profi i fod yn boblogaidd gyda myfyrwyr.

“Dim ond y dechrau yw’r cyfuniad yma i’r Brifysgol. Rydym eisoes yn buddsoddi £1.7 miliwn mewn preswylfeydd a mannau astudio newydd i fyfyrwyr a byddwn yn parhau i ehangu yr hyn sydd gennym i’w gynnig gyda chyrsiau newydd a chyfleusterau newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr Sir y Fflint yn ystod y blynyddoedd nesaf.”

Meddai’r Dirprwy Weinidog, John Griffiths: “Mae hwn yn gyfuniad blaengar cyffrous rhwng Coleg Garddwriaeth Cymru a Choleg Glannau Dyfrdwy ac addysg uwch gyda Phrifysgol Glyndŵr. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn falch o helpu i ariannu’r ganolfan addysg newydd yn Llaneurgain a fydd yn darparu cyfleusterau arbenigol o’r radd flaenaf i fyfyrwyr.”

Meddai Ian Budd, Cyfarwyddwr Dysgu Gydol Oes Cyngor Sir y Fflint: ‘Rydym yn dathlu’r datblygiad pwysig yma ar gyfer addysg tirol yn yr ardal. Mae’r bartneriaeth gyda’r colegau yn bwysig i’r Cyngor. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â staff a myfyrwyr yn ystod y diwrnod.’

Cysylltwch a ni